Yma gallwch canfod ystod eang o gwestiynau cyffredin gall eich helpu. Os oes gennych cwestiwn nad yw'r ateb yma neu ar unrhyw un o'n tudalennau eraill, yna gallwch cysylltu â Hwb trwy'r ddolen HYN
Cwestiynau cyffredin
Mae gennyf problem ynglyn â ble rydw i'n byw, beth galla i wneud?
Os oes gennych problem, cysylltwch â'r Canolfan Cyngor a Chymorth trwy ebost: advice@swansea-union.co.uk
Rydym am i'ch amser yn y Brifysgol fod yn brofiad cadarnhaol ac rydym yma i helpu ym mha bynnag ffordd y gallwn.
Mae gen i broblemau gyda fy nghymydog, beth gallaf ei wneud?
Os ydych chi'n cael trafferth gyda chymdogion, gallwch gysylltu â Heddlu De Cymru dros y ffôn (101 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys, 999 ar gyfer argyfyngau).
Os yw'n fater sy'n gysylltiedig â sŵn, gallwch gysylltu â thîm llygredd sŵn Cyngor Abertawe YMA
Os yw'n gysylltiedig â sbwriel neu wastraff, rydych yn defnyddio system adrodd sbwriel Cyngor Abertawe YMA.
Oes derbynfa gallai ymweld yn bersonol?
Y syniad gorau bydd i ymweld a'r Hwb yn naill ai Y Techniwm Digidol ar Gampws Singleton, neu'r Adeilad Canolog Peirianneg ar Gampws y Bae
Rwyf wedi dioddef trosedd, at bwy gallaf droi?
Os ydych wedi dioddef trosedd, rydym yn eich annog i roi gwybod i Heddlu De Cymru. Gallwch wneud hyn drwy ffonio 101 os nad yw'n argyfwng, defnyddio eu porth hysbysu ar-lein www.south-wales.police.uk neu drwy ffonio 999 mewn argyfwng..
A alla’ i ddod â’m car i'r Brifysgol, a ble gallaf barcio?
Fel rhan o'n hymdrechion i fod yn brifysgol ddi-garbon erbyn 2035, rydym yn annog myfyrwyr a staff i ddewis opsiynau teithio llesol a chynaliadwy lle bynnag y bo modd. I'r rhai sy'n byw ymhellach i ffwrdd yna rydym yn argymell y gwasanaethau bysiau lleol. Mae'r Brifysgol yn cynnig parcio Talu ac Arddangos dros nos rhwng 4pm ac 8am. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl ar dudalen Teithio Prifysgol Abertawe
Os ydych yn byw yn y gymuned, gallwch wneud cais am drwydded parcio i breswylwyr, ond dim ond nifer cyfyngedig o drwyddedau sydd ar gael ar gyfer pob cartref. Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am y trwyddedau hyn, sut i wneud cais, a'r meini prawf ar gyfer gwneud cais ar wefan Cyngor Abertawe.
Mae gan y Brifysgol gysylltiadau cryf â First Cymru Buses sy'n rhedeg gwasanaethau rheolaidd ledled Abertawe yn rheolaidd! Os ydych chi'n deithiwr rheolaidd, edrychwch ar docynnau'r myfyrwyr!
Mae gen i broblemau gyda’m Landlord, beth gallaf ei wneud?
Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr bod eich landlord wedi'i gofrestru ar Rhentu Doeth Cymru. Os nad ydynt, rhowch wybod am hyn a gwnewch Gyngor Abertawe yn ymwybodol.
Fel arall, gallwch hefyd ddod o hyd i ystod o gymorth gan yr Undebau Myfyrwyr sy'n cynghori centreadvice@swansea-union.co.uk. Gallant gynorthwyo gydag amrywiaeth o faterion megis cyngor ar gontract, blaendaliadau, adfail ac anghydfodau landlord/asiantaeth.
Mae gen i problemau gyda fy sbwriel, oes help ar gael?
Gwylanod, llwynogod, llygod mawr - mae pob un yn dramgwyddwyr pan ddaw'n fater o wasgaru sbwriel ar draws y stryd ar ddiwrnod biniau! Os ydych chi'n cael problemau gyda'ch bagiau bin yn cael eu rhwygo, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dilyn y camau hanfodol hyn:
- Golchwch unrhyw gynwysyddion bwyd cyn cael gwared arnynt! Bydd anifeiliaid yn rhwygo bagiau yn agored i gyrraedd arogl y bwyd - os ydych chi'n golchi unrhyw gynwysyddion bwyd, does dim byd i'w hudo i mewn!
- Trefnwch eich sbwriel yn iawn! Mae Abertawe'n defnyddio system o fagiau gwyrdd, pinc, bwyd a du. Rhowch blastig caled yn eich bagiau pinc a gwastraff cyffredinol yn eich bagiau du. Papur/cardbwrdd mewn bag gwyrdd AR WAHÂN oddi wrth dun/metel/gwydr - dylai hwn fynd mewn bag gwyrdd ar wahân. Yn aml mae'n syniad da cael 2 fag gwyrdd ar agor unrhyw bryd fel y gallwch wahanu'ch gwastraff wrth fynd! Yn olaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared ar unrhyw wastraff bwyd yn eich bin bwyd ac NID yn eich bagiau du. Mae lapio unrhyw eitemau miniog hefyd yn atal y bagiau rhag rhwygo!
- Defnyddiwch eich cyfleusterau storio biniau! Mae gan y rhan fwyaf o dai ryw fath o storfa finiau, boed yn fin bach neu'n gynhwysydd mawr. Mae storio eich biniau yn ddiogel rhag unrhyw anifeiliaid tan y diwrnod bin yn ffordd dda o osgoi unrhyw broblemau. Rhowch eich biniau allan yn hwyr y noson cyn y diwrnod casglu i leihau'r risg o 'ymosodiad' ymhellach.
- Gwiriwch yr amserlen! Mae'r cyngor bob yn ail wythnos 'GWYRDD' a 'PINC'. Ar wythnosau GWYRDD gallwch gael gwared ar fagiau gwyrdd, gwastraff bwyd a bagiau du. Ar wythnosau PINC gallwch gael gwared ar fagiau pinc, gwastraff gardd, a gwastraff bwyd. Dylai eich tŷ fod wedi derbyn calendr gyda'r wybodaeth hon, ond gallwch wirio hyn ar unrhyw adeg trwy ymweld â Chwiliad Ailgylchu Cyngor Abertawe
- Cadwch at y terfyn! Caniateir 3 bag bin du i bob cartref - dim mwy na hyn ac efallai na fydd eich gwastraff yn cael ei gasglu! Nid oes cyfyngiad ar fagiau gwastraff gwyrdd/bwyd! Os ydych chi'n cynhyrchu mwy na 3 bag du o wastraff bob pythefnos, siaradwch â'ch landlord a fydd efallai'n gallu trefnu casgliadau mwy.
Mae pawb yn gwneud camgymeriadau, yn enwedig wrth ddefnyddio'r gwasanaeth am y tro cyntaf. Fodd bynnag, mae'n bwysig eich bod bob amser yn tynnu unrhyw fagiau a ddefnyddiwyd yn anghywir o ymyl y ffordd cyn gynted â phosibl i'w storio a/neu eu didoli yn barod ar gyfer y casgliad nesaf.
Os methwch â'u trefni erbyn y diwrnod ar ôl eich casgliad byddant yn cael eu clirio gan ein criw glanhau strydoedd a gallech dderbyn hysbysiad cosb benodedig o £100! Ddim yn ffordd ddelfrydol i nodi eich amser yn Abertawe.
Rwy'n poeni am costau byw, â phwy gallaf gysylltu?
Gall symud o'ch cartref i'r Brifysgol fod yn anodd ac yn llawn straen. Serch hynny, does dim angen poeni, mae ein tîm Arian wedi llunio canllaw hwylus i fyfyrwyr sy'n nodi'r hyn y dylech ei ystyried o ran costau byw, edrychwch ar y dudalen costau byw i gael rhagor o wybodaeth.
Mae'n anodd i mi wneud ffrindiau/cymdeithasu, pa gyngor sydd ar gael?
Gallwch bori neu ymaelodi â chlwb chwaraeon neu gymdeithas unrhyw bryd ar wefan Undeb y Myfyrwyr. Bydd llawer o gyfleoedd i chi ddysgu rhagor am yr hyn maen nhw'n ei gynnig yn ystod y cyfnod croeso.
Am restr lawn o gymdeithasau a rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Cymdeithasau gwefan Undeb y Myfyrwyr.
Gallwch canfod digwyddiadau ar dudalen digwyddiadau'r UM. Mae yna ystod eang o digwyddiadau am ddim ac am gost. Mae'n cyfle wych i drafod a chysylltu ag eraill!
Os ydw i'n byw ar gampws, a ddylwn i dod atoch chi?
Yn yr achosion hyn cysylltwch â gwasanaethau preswyl trwy eu gwefan. Gallwch hefyd gysylltu â tim diogelwch naill campws dros y ffôn (333 ar gyfer ffonau mewnol, 01792 604271 ar gyfer ffonau symudol) neu drwy'r ap SafeZone. Am broblemau gyda'ch llety ar gampws ewch i dderbynfa Preseli (Singleton) neu dderbynfa UPP (Bae). Gallwch hefyd troi i Hwb am unrhyw gwesitynau eraill.
Rydw i'n aelod o PCYDDS, ydy'r gwybodaeth hyn yn berthnasol i mi?
Er y gall rhywfaint o’r wybodaeth hon fod yn berthnasol i chi, byddem yn argymell eich bod yn mynd i wefan PCYDDS am ragor o wybodaeth:
Gwasanaethau Myfyrwyr - hwb@uwtsd.ac.uk
Rhaglen Cymorth i Fyfyrwyr - Ffoniwch 0800 082 3766
Undeb Myfyrwyr PCYDDS - union@uwtsd.ac.uk