Campws y Bae a Champws Singleton
Yn unol â Strategaeth Cynaliadwyedd y Brifysgol, nid oes parcio ar y campws ar gyfer ceir na beiciau modur i fyfyrwyr rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio deiliaid hawlenni. Ewch i'r dudalen we Teithio mewn Car am ragor o wybodaeth.
Tŷ Beck
Mae parcio ceir ar y safle am ddim i breswylwyr, 24 awr y dydd.
Rydych chi'n derbyn unrhyw risg wrth barcio ac nid yw Prifysgol Abertawe yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros gerbydau sydd wedi'u parcio sy'n cael eu colli neu eu difrodi.
Mae preswylwyr Tŷ Beck yn gymwys i gael un hawlen barcio yr un, sy'n ddilys am gyfnod eu contract llety.
Gall preswylwyr gofrestru eu cerbydau a chasglu hawlen barcio o Dderbynfa Tŷ Beck.
Mae'n rhaid i bob cerbyd sy'n parcio ym maes parcio Tŷ Beck ddangos hawlen barcio ddilys ar bob adeg.
Mae'n ofynnol i ddefnyddwyr sy'n parcio ym maes parcio Tŷ Beck ufuddhau i gyfarwyddiadau staff sydd wedi cael cyfarwyddyd caeth i wrthod mynediad i unrhyw gerbyd heb hawlen barcio, hyd yn oed os yw'n hysbys bod y gyrrwr yn ddefnyddiwr awdurdodedig.
Os oes cerbyd anawdurdodedig wedi'i barcio ar safleoedd y Brifysgol, neu os oes cerbyd awdurdodedig wedi'i barcio mewn lle anawdurdodedig, caiff rhybudd ei roi ar y cerbyd hwnnw neu bydd aelodau staff awdurdodedig y Brifysgol yn ei glampio neu yn ei symud.
Os bydd preswylwyr yn newid cerbyd, bydd angen hawlen newydd arnynt, y gallant ei chael gan Dderbynfa Tŷ Beck.
true student
Mae mannau parcio ceir cyfyngedig i ymwelwyr ar gael yn true Swansea. Mae'r mannau parcio ar
gyfer y rhai hynny sydd wedi eu cadw ymlaen llaw ar gyfer y flwyddyn academaidd yn unig, a dylai unrhyw ymholiadau gael eu cyfeirio i sylw'r tîm yn true.
Y maes parcio cyhoeddus agosaf yw maes parcio aml lawr y Stryd Fawr, wedi'i leoli ger yr Orsaf Drenau ar Ivey Place, SA1 1NU.