Y RHYNGRWYD

Gallwch gael mynediad i’r gwasanaeth diwifr, gan gynnwys lanlwythiadau a lawrlwythiadau diderfyn, yn eich ystafell a ledled y preswylfeydd heb unrhyw dâl ychwanegol.

Campws y Bae

Dylai preswylwyr Campws y Bae gysylltu â rhwydwaith Wi-Fi Glide yn eu llety.

  1. Sganiwch am y rhwydweithiau Wi-Fi sydd ar gael a chysylltu â'r rhwydwaith Glide_Signup.
  2. Agorwch eich porwr gwe a byddwch chi'n cael eich ailgyfeirio i sgrîn groeso Glide.
  3. O dan 'Just moved in?', pwyswch ar Register.
  4. Cwblhewch yr holl feysydd a gwasgwch ar Register.
  5. Os ydych chi wedi cofrestru'n llwyddiannus, dangosir sgrîn gadarnhau gan gynnwys eich allweddair rhwydwaith unigryw.
  6. Pwyswch yr eicon copïo a dychwelyd i osodiadau rhwydwaith Wi-Fi eich dyfais.
  7. Anghofiwch y rhwydwaith Wi-Fi Glide_Signup a chysylltu â'r rhwydwaith Wi-Fi Glide-Resident yn lle hynny.
  8. Gludwch eich allweddair rhwydwaith pan ofynnir i chi wneud hynny, a gwasgwch Continue.
  • Ar ôl cysylltu, gallwch fynd ar-lein.
  • Gallwch ddefnyddio'r un allweddair i ychwanegu rhagor o ddyfeisiau at eich rhwydwaith personol, preifat.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'ch allweddair yn ddiogel. Bydd hwn hefyd yn cael ei anfon atoch drwy e-bost a neges destun er hwylustod i chi.

Mynediad i ymwelwyr

  • Sganiwch am y rhwydweithiau Wi-Fi sydd ar gael a chysylltu â'r rhwydwaith Glide_Signup.
  • Agorwch eich porwr gwe a byddwch chi'n cael eich ailgyfeirio i sgrîn groeso Glide.
  • Pwyswch ar Visitor access.
  • Rhowch eich enw a'ch cyfeiriad e-bost a gwasgwch ar Connect.
  • Bydd hyn yn rhoi mynediad i chi am 24 awr; ar ôl hyn, bydd angen i chi ail-gofrestru.

Angen cymorth?

• Ffoniwch: 0333 123 0115
• E-bostiwch: studentsupport@glide.co.uk

Mewn lleoliadau eraill ar y campws, dylech chi gysylltu â'r rhwydwaith eduroam, gan ddilyn y cyfarwyddiadau yma.

Campws Parc Singleton a Thŷ Beck true student