Cwestiynnau Cyffredin am Ymsefydlu yn yr Ysgol
Cwestiynnau Cyffredin
Sut byddaf yn cwrdd â’m darlithwyr?
Byddwch yn cwrdd â’ch darlithwyr yn ystod sesiynau sefydlu eich rhaglen ac yn ystod gweithgareddau addysgu cychwynnol. Mae’r sesiynau hyn wedi’u teilwra i’ch cyflwyno i’r staff academaidd ac i roi mewnwelediad i strwythur eich cwrs a’r disgwyliadau.
Pwy yw fy Mentor Academaidd?
Mae pob myfyriwr yn cael Mentor Academaidd, aelod o’r staff addysgu sy’n gweithredu fel eich prif gyswllt academaidd drwy gydol eich astudiaethau. Bydd eich mentor yn cefnogi eich datblygiad academaidd, yn cynnig arweiniad ar fywyd prifysgol, ac yn eich cynorthwyo gydag unrhyw bryderon. Byddwch yn cael eich cyflwyno i’ch Mentor Academaidd yn ystod Wythnos y Sefydlu.
Ble alla i fynd am gymorth?
Desgiau Hwb
E-bost: Yn dod yn fuan..
Ffôn: 01792 602121
Wyneb yn wyneb: Dydd Llun i Dydd Gwener, 9yb tan 4yp
Llawr Gwaelod, Technium Digidol, Campws Singleton
Derbynfa Engineering Central, Campws Y Bae
Sut alla i ddod o hyd i’m amserlen addysgu?
Mae eich amserlen addysgu ar gael drwy borth ar-lein y brifysgol:
Gwefan: mytimetable.swan.ac.uk
Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi’r brifysgol i weld eich amserlen bersonol.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys fideo sy’n dangos sut i ddefnyddio eich amserlen, ar gael yma – https://hwb.swansea.ac.uk/academic-life/my-timetable/
Pwy yw fy Nhiwtor Personol?
Pan fyddwch yn dechrau yn y Brifysgol, byddwch yn cael eich neilltuo i Diwtor Personol, fel arfer yn aelod o’r staff addysgu o’ch rhaglen. Byddant yn cysylltu â chi drwy eich e-bost prifysgol i drefnu cyfarfodydd rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, ac yn gallu eich cefnogi gydag amrywiaeth o ymholiadau gan gynnwys: cyfeirio at gymorth bugeiliol, arweiniad academaidd, cyflogadwyedd a mwy.
Gallwch ddod o hyd i bwy yw eich tiwtor a’u manylion cyswllt drwy fewngofnodi i’ch tudalen fewnol unigol, o dan Manylion y Cwrs > Cysylltiadau’r Cwrs.
Sut alla i aros yn wybodus ac yn gysylltiedig?
Arhoswch yn gyfredol gyda newyddion, digwyddiadau a chyhoeddiadau’r brifysgol drwy:
- Hwb: Canolfan ganolog ar gyfer gwasanaethau a gwybodaeth i fyfyrwyr.
- Newyddion Myfyrwyr: Diweddariadau rheolaidd am ddigwyddiadau’r brifysgol.
- Calendr Digwyddiadau: Rhestrau o ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd ar ddod.
- Cyfryngau Cymdeithasol: Dilynwch Hwb, eich Cyfadran a’r brifysgol ar Instagram am ddiweddariadau amser real a chyfleoedd i ymgysylltu â’r gymuned.
Pa apiau a systemau TG fyddaf yn eu defnyddio?
Bydd Wythnos y Croeso yn eich cyflwyno i’r prif lwyfannau TG a ddefnyddir ar draws y Brifysgol, a bydd eich darlithwyr yn eich hysbysu am unrhyw feddalwedd benodol i’r cwrs y byddwch yn ei ddefnyddio yn eich astudiaethau.
Cyn i chi gyrraedd, gallwch baratoi drwy lawrlwytho Canvas, ein llwyfan dysgu digidol. Bydd pob un o’ch modiwlau ar Canvas, sy’n storio llawer o’r adnoddau dysgu y bydd eu hangen arnoch. Dyma’ch canolfan wybodaeth ar gyfer gwybodaeth allweddol, adnoddau, cysylltiadau a digwyddiadau drwy gydol eich astudiaethau.
Mae’r Brifysgol yn defnyddio Zoom ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau a sesiynau gwybodaeth, felly mae’n syniad da lawrlwytho hwn. Unwaith y byddwch wedi’ch cofrestru, byddwch yn gallu mewngofnodi gyda’ch cyfrif Prifysgol ar eich cyfrifiadur, llechen neu ffôn. Os nad ydych yn gyfarwydd â Zoom eto, mae’r Brifysgol wedi cynhyrchu rhagor o wybodaeth a chanllawiau defnyddiwr.
Beth os byddaf yn colli fy nghyflwyniad yn yr ysgol?
Os na allwch fynychu eich sesiwn sefydlu, bydd modd i chi gael mynediad at sleidiau sefydlu’r rhaglen ar eich Hwb Canvas ac ymuno â sesiynau galw heibio academaidd i ddal i fyny gyda’ch darlithwyr pan fyddwch yn cyrraedd.
Rydym hefyd yn argymell mynychu’r Ffeiriau Gwybodaeth i Fyfyrwyr, lle gallwch cysylltu ag ystod eang o dimau cymorth, adrannau academaidd a gwasanaethau allanol, i gyd mewn un lle! Bydd yn rhoi'r cyfle i ti archwilio'r cymorth sydd ar gael i ti wrth i ti addasu i fywyd yn y Brifysgol.
Bydd gweithgareddau celf a chrefft am ddim i fyfyrwyr, nwyddau i ti gymryd adref gyda thi, a hyd yn oed y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau Bod yn Actif.
Dyma ddyddiadau a lleoliadau’r Ffair Wybodaeth:
Campws y Bae, Adeilad Gogleddol Peirianneg, Atriwm
Dydd Iau 2 Hydref 2025 11.00am - 3.00pm - Campws y Bae (adeilad rhif 12 ar y map)
Campws Singleton, Taliesin
Dydd Mawrth 7 Hydref 2025 11.00am - 3.00pm - Campws Singleton (adeilad rhif 32 ar y map)
Pa gymorth a gwybodaeth sydd ar gael i rieni sy’n fyfyrwyr?
Fel Prifysgol, rydym yn cydnabod bod gan lawer o’n myfyrwyr gyfrifoldebau gofalu. Ein nod yw darparu amgylchedd croesawgar i’n holl fyfyrwyr a’u cefnogi i gyflawni llwyddiant.
Gan fod y Brifysgol yn lle gwaith ac astudio, nid yw ein hadeiladau, gweithgareddau a mesurau rheoli risg wedi’u cynllunio ar gyfer plant fel arfer. Sylwch na ddylid dod â phlant i mewn i fannau dysgu ac addysgu (oni bai ei fod yn ddigwyddiad trefnedig). Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y polisi Plant ar Safleoedd y Brifysgol.
Mae Meithrinfa Undeb y Myfyrwyr yn darparu gofal plant o ansawdd uchel ac am bris fforddiadwy ar Gampws Singleton ar gyfer plant o 3 mis oed hyd at eu pen-blwydd yn 8 oed. Am ragor o wybodaeth am ofal plant ac ysgolion, cyfeiriwch at dudalennau gwe’r cynghorau:
- Cyngor Dinas a Sir Abertawe
- Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Os ydych yn fyfyriwr o’r DU, edrychwch ar ganllaw’r Brifysgol ar gyllid myfyrwyr ar gyfer rhieni sy’n fyfyrwyr. Rydym hefyd wedi datblygu Canllaw Gwybodaeth i Deuluoedd cynhwysfawr ar gyfer ein myfyrwyr rhyngwladol.
Am wybodaeth a chymorth ynghylch beichiogrwydd myfyrwyr, ewch i’n tudalennau gwe.
Cwestiynnau Cyffredin Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol (FHSS)?
Beth yw Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol (FHSS)?
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnwys tair cyfadran. Fel myfyriwr, byddwch yn rhan o Gyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, sy’n cynnwys:
- Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
- Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
- Ysgol Reolaeth
- Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Er y byddwch yn cael eich dysgu’n bennaf yn eich ysgol gartref, gall rhaglenni anrhydedd ar y cyd gynnwys modiwlau o sawl ysgol. Mae FHSS yn meithrin cymuned fywiog, gan gynnig digwyddiadau cymdeithasol, academaidd a chymunedol ar draws y gyfadran drwy gydol y flwyddyn, gan ddarparu cyfleoedd i gysylltu â myfyrwyr a staff o bob ysgol.
Cwestiynnau Cyffredin Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd (FMHLS)?
Beth yw Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd (FMHLS)?
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnwys tair cyfadran. Fel myfyriwr, byddwch yn rhan o Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd, sy’n cynnwys:
- Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Ysgol Seicoleg
- Ysgol Feddygaeth
Er y byddwch yn cael eich dysgu’n bennaf yn eich ysgol gartref, gall rhaglenni anrhydedd ar y cyd gynnwys modiwlau o sawl ysgol. Mae FMHLS yn meithrin cymuned fywiog, gan gynnig digwyddiadau cymdeithasol, academaidd a chymunedol ar draws y gyfadran drwy gydol y flwyddyn, gan ddarparu cyfleoedd i gysylltu â myfyrwyr a staff o bob ysgol.
Rwy’n derbyn Bwrsariaeth HEIW (GIG) – Ble alla i ddod o hyd i ragor o wybodaeth?
Mae’r holl Telerau ac Amodau a’r Cwestiynau Cyffredin sy’n ymwneud â Bwrsariaethau’r GIG ar gyfer rhaglenni wedi’u comisiynu ar gael ar eich Hwb Canvas o dan ‘Gwybodaeth am Fwrsariaeth y GIG a Theithio’.
Gallwch hefyd anfon e-bost i bursary-medicinehealthlifescience@swansea.ac.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau am daliadau (yn ymwneud â rhaglenni comisiynu a ariennir gan HEIW yn unig – Gwyddorau Gofal Iechyd, Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwyddor Barafeddygol, Therapi Galwedigaethol, Ymarferydd Adran Lawdriniaeth, MSc Nyrsio, Cymdeithion Meddyg, a GEM).
Cwestiynnau Cyffredin Cyfadran y Gwyddorau a’r Peirianneg (FSE)?
Beth yw Cyfadran y Gwyddorau a’r Peirianneg (FSE)?
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnwys tair cyfadran. Fel myfyriwr, byddwch yn rhan o Gyfadran y Gwyddorau a’r Peirianneg, sy’n cynnwys:
- Ysgol Bioleg, Daearyddiaeth a Ffiseg
- Ysgol Mathemateg a Gwyddor Cyfrifiaduron
- Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Trydanol, Cyffredinol a Mecanyddol
- Ysgol Peirianneg a’r Gwyddorau Cymhwysol
Er y byddwch yn cael eich dysgu’n bennaf yn eich ysgol gartref, gall rhaglenni anrhydedd ar y cyd gynnwys modiwlau o sawl ysgol. Mae FSE yn meithrin cymuned fywiog, gan gynnig digwyddiadau cymdeithasol, academaidd a chymunedol ar draws y gyfadran drwy gydol y flwyddyn, gan ddarparu cyfleoedd i gysylltu â myfyrwyr a staff o bob ysgol.