Bydd eich amserlen yn dangos eich darlithoedd a’ch seminarau ar y campws ac ar-lein.
Bydd pob bloc addysgu yn dangos côd y modiwl, math o sesiwn, lleoliad yr ystafell neu os yw ar-lein, amser dechrau a gorffen y sesiwn, ac os ydych chi mewn ystafell ganolog, bydd dolen Flickr a fydd yn dangos llun o'r ystafell i chi.
Ar gyfer rhai rhaglenni, bydd darlithoedd yn cael eu recordio ymlaen llaw a'u lanlwytho i dudalennau cwrs eich modiwlau yn Canvas ac ni fyddant yn ymddangos ar eich amserlen addysgu. Os yw eich rhaglen yn mabwysiadu'r dull hwn, bydd gennych seminarau, tiwtorialau etc wedi'u hamserlennu o hyd, i ryngweithio'n fyw â staff a myfyrwyr.
Ni fydd unrhyw ddolenni Zoom ar gyfer sesiynau ar-lein yn ymddangos ar eich amserlen, byddant ar dudalennau cwrs eich modiwlau yn Canvas.
Ar gyfer modiwlau mwy, efallai y bydd ganddynt grwpiau seminar llai. Gallwch chi ddod o hyd i'r holl grwpiau seminar yn amserlenni cyffredinol cyrsiau ac unedau, ond bydd eich amserlen unigol yn dangos y rhai mae angen i chi eu mynychu. Nid oes angen i chi fynychu pob seminar yn yr amserlen gyffredinol.
Ni fydd dysgu annibynnol, megis cyfarfodydd gyda'ch tiwtor personol, yn ymddangos ar eich amserlen.