Hoffech chi weld sut rydym yn trefnu 22,000 o amserlenni unigryw.

Ydych chi erioed wedi gofyn i chi’ch hun sut mae eich amserlen yn y Brifysgol yn dod ynghyd? 

Efallai ei fod yn teimlo mai hud a lledrith sy'n gyfrifol am greu'r amserlenni, ond y tu ôl i'r llenni, mae'n jig-so mawr - ac nid yw dod â’r darnau ynghyd yn dasg hawdd o gwbl. 

Mae angen ystyried llawer wrth ddylunio eich amserlen. Dyma bimp ffactor unigryw i’w hystyried wrth greu amserlenni pawb ym Mhrifysgol Abertawe.

  1. Pobl
  2. Adeiladau
  3. Oriau
  4. Anghenion Hygyrchedd
  5. Newidiadau i faint dosbarthiadau

Gall amserlenni newid hyd at, ac cynnwys wythnosau cyntaf pob semester. Gall sawl rheswm fod yn gyfrifol am hyn, ond y prif reswm yw er mwyn cydbwyso maint grwpiau seminar neu oherwydd bod dewisiadau modiwlau'n newid, sy'n effeithio ar faint dosbarthiadau.

Oes gennych gwestiynau am eich amserlen o hyd? Ewch i'n tudalen Cwestiynau Cyffredin yma.

Felly, cofiwch gadw hyn mewn cof pan fyddwch chi’n edrych ar eich amserlen neu pan fydd newidiadau'n cael eu gwneud i'ch amserlen. Rydym yn gwybod nad yw newidiadau bob amser yn hawdd ac rydym yn diolch i chi am eich dealltwriaeth. Cofiwch – mae’n fwy nag amserlen; y tu ôl i bob amserlen y mae darlun ehangach.