2.1
Mae strwythur rhaglenni Graddau Meistr Safonol fel a ganlyn:
Rhaglen astudio amser llawn neu ran-amser sy'n cynnwys modiwlau gwerth cyfanswm o 180 credyd, gyda 120 credyd o fodiwlau a addysgir yn Rhan Un, a 60 credyd o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd yn Rhan Dau.
2.2
Ni chaiff ymgeiswyr astudio ar gyfer mwy na 120 credyd yn Rhan Un.
2.3
Yn achos ymgeiswyr amser llawn, cwblheir Rhan Un, fel arfer, yn y 9 mis cyntaf, a bydd yr ymgeiswyr yn ymgymryd â Rhan Dau ym misoedd 9 tan 12. Yn achos ymgeiswyr rhan amser, cwblheir Rhan Un, fel arfer, dros gyfnod o 24 mis, a bydd yr ymgeiswyr yn ymgymryd â Rhan Dau yn ystod y drydedd flwyddyn astudio.
Bydd angen i fyfyrwyr sy'n dymuno cwblhau'r MSc Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol mewn Ymweliadau Iechyd neu mewn Nyrsio Ysgol a'r Cymhwyster Ymarfer Arbenigol Astudiaethau Iechyd Cymunedol mewn Nyrsio Ardal yn gyntaf gwblhau'r dyfarniad Diploma Ôl-raddedig (PGDip) mewn Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol mewn Ymweliadau Iechyd neu mewn Nyrsio Ysgolion neu'r Cymhwyster Ymarfer Arbenigol Astudiaethau Iechyd Cymunedol mewn Nyrsio Ardal yn llwyddiannus. Bydd myfyrwyr sy'n ennill PGDip yn gymwys i symud ymlaen i'r dyfarniad MSc gan ddefnyddio'r broses drosglwyddo fewnol. Ni fydd yn ofynnol i fyfyrwyr ddychwelyd eu dyfarniad PGDip gan ei fod yn ofynnol ar gyfer cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Bydd gan y myfyrwyr rhan-amser hynny sydd wedi'u cofrestru ar yr MSc Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol mewn Ymweliadau Iechyd neu mewn Nyrsio Ysgolion a'r Cymhwyster Ymarfer Arbenigol Astudiaethau Iechyd Cymunedol mewn Nyrsio Ardal ymgeisyddiaeth ychwanegol a fydd yn para dwy flynedd.
2.4
Pennir deilliannau dysgu ar gyfer pob rhaglen gradd Meistr ac unrhyw raglen y bwriedir iddi ddarparu cymhwyster canolradd neu gymhwyster wrth gefn.
2.5
Caiff rhai rhaglenni penodol eu strwythuro mewn modd sy'n golygu bod yn rhaid i ymgeiswyr wneud ymarfer proffesiynol a lleoliadau. Os bydd cymhwysedd proffesiynol ymgeiswyr yn cael ei asesu ar ôl cyfnod o ymarfer proffesiynol neu brofiad gwaith, rhaid rhoi credydau i’r canlyniad.