Proffil Rôl Myfyrwyr - Dolenni Cyflym |
---|
Defnydd Cyfrifol a Moesegol |
Llythrennedd Craidd Deallusrwydd Artiffisial |
Llythrennedd Deallusrwydd Artiffisial sy'n benodol i'r rôl |

Wrth i Ddeallusrwydd Artiffisial ddod yn rhan annatod o'r byd academaidd a phroffesiynol, mae'n hollbwysig bod myfyrwyr nid yn unig yn ymwybodol o'r technolegau cynyddol amlwg hyn ond bod hefyd ganddynt y gallu i ymgysylltu â nhw mewn ffordd feirniadol a chreadigol.
Mae'r rhan hon o'r Fframwaith Deallusrwydd Artiffisial wedi'i dylunio'n benodol ar gyfer myfyrwyr - mae'n cynnig esboniadau clir, mewnwelediadau moesegol ac offer ymarferol i'ch helpu i ddeall, defnyddio a myfyrio ar rôl Deallusrwydd Artiffisial yn ystod eich taith ddysgu a thu hwnt.

Defnydd Cyfrifol a Moesegol
Mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn dod yn rhan annatod o addysg, gan gynnig ffyrdd newydd o ddysgu, archwilio a chreu. I fyfyrwyr, mae ymgysylltu â AI yn fwy na defnyddio offer yn unig—mae’n golygu deall y goblygiadau ehangach o sut mae AI yn siapio gwybodaeth, cyfathrebu a gwneud penderfyniadau.
Mae defnyddio AI yn gyfrifol ac yn foesegol yn ymwneud â datblygu llythrennedd digidol, parchu gwerthoedd academaidd, a pharatoi i lywio byd lle mae AI yn fwy amlwg ym mywyd bob dydd.

Llythrennedd Craidd A.I.
Wrth i AI ddod yn fwyfwy annatod i addysg a bywyd bob dydd, mae datblygu dealltwriaeth sylfaenol o sut mae’n gweithio yn hanfodol. Mae llythrennedd craidd AI yn grymuso myfyrwyr i ymgysylltu’n feirniadol ac yn greadigol ag offer AI, deall eu gallu a’u cyfyngiadau, ac adlewyrchu are y goblygiadau cymdeithasol a moesegol ehangach o’u defnydd.
Mae hyn yn helpu myfyrwyr i ddod yn ddefnyddwyr hyderus a chyfrifol, yn academaidd ac yn eu bywydau bob dydd.

Llythrennedd A.I. sy'n Benodol i'r Rôl
Wrth i AI ddod yn fwy integredig ym mywyd academaidd, disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu defnydd moesegol ac effeithiol o’r technolegau hyn i gynnal uniondeb academaidd wrth ddefnyddio AI, cydnabod sut y gellir cymhwyso AI o fewn disgyblaethau penodol, ac archwilio ffyrdd o’i ddefnyddio i wella dysgu personol.
Mae datblygu’r cymwyseddau hyn yn helpu myfyrwyr i ddefnyddio AI fel arf ar gyfer twf, creadigrwydd ac ymgysylltu dyfnach â’u meysydd astudio, tra’n cynnal gwerthoedd ysgolheictod cyfrifol.