CWESTIYNAU: Cyfnod Arholiadau Ionawr 2026

Bydd y Cyfnod Arholiadau Ionawr yn rhedeg o 5 - 23 Ionawr 2026.

Cynhelir arholiadau mewn lleoliadau arholi amrywiol ar Gampws Parc Singleton a Champws y Bae, yn ogystal â lleoliadau allanol. Os ydych chi'n teithio i Gampws y Bae ar gyfer arholiad, mae canllawiau ar eich opsiynau teithio ar gael yma. Byddem yn argymell yn gryf bod pob myfyriwr yn cynllunio ar gyfer ei daith ymlaen llaw i sicrhau ei fod yn brydlon ar gyfer ei arholiadau.

Sicrhewch eich bod yn gwirio'ch amserlen arholiadau yn ofalus, ac yn ogystal â gwirio'r dyddiadau asesu, amseroedd rhyddhau a dyddiadau cau, byddwch yn siŵr o wirio'r lleoliad ac a gaiff yr asesiad ei gynnal ar-lein neu ar y safle/wyneb yn wyneb.

Os oes gennych gwestiynau ynghylch amserlen yr arholiadau neu os oes angen cymorth arnoch yn ystod yr arholiadau, cysylltwch Hwb

Pob lwc gyda'ch asesiadau!

CWESTIYNAU CYFFREDIN AR GYFER ARHOLIADAU