Nod y Gymdeithas Peirianneg Ddeunyddiau yw dod ag addysg a diwydiant ynghyd. Drwy gydol pob tymor rydym yn cynnal ymweliadau â diwydiant, darlithoedd gan Gymdeithas Ddeunyddiau De Cymru, ac wrth gwrs ddigwyddiadau cymdeithasol i roi cyfle i bobl ddod i adnabod myfyrwyr o bob grŵp blwyddyn.
Rydym hefyd yn helpu i gynnig cyfleoedd y tu allan i’r Brifysgol trwy gynnal teithiau megis taith i’r Labordy Niwclear Ffiseg yng Ngenefa a hefyd leoliadau gwaith dros yr haf a gweithgareddau STEM.
Mae Cymdeithas Menywod mewn Peirianneg Abertawe yn gymdeithas a arweinir gan fyfyrwyr sy'n rhan o Undeb y Myfyrwyr a Chymdeithas Menywod mewn Peirianneg ryngwladol. Rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol ac un o'n prif amcanion yw rhwydweithio a chysylltu peirianwyr wrth gymdeithasu a mwynhau bod yn fyfyriwr yn Abertawe. Mae croeso i bob myfyriwr Peirianneg ymuno â ni, dynion a menywod. Rydym yn gweithio'n agos gyda chynllun Mentora Cymheiriaid y Coleg i gefnogi peirianwyr benywaidd.
Gwnewch y mwyaf o'ch amser yn Abertawe ac ymunwch â ni!
Mae bod yn rhan o dîm Peirianneg Rasio Prifysgol Abertawe yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr o bob cwrs gymryd rhan yng nghylch bywyd cyfan prosiect peirianneg: o'r cysyniadau dylunio cychwynnol, y gwaith adeiladu a phrofi, i'r brif foment - rasio'r car. Ymunwch â ni i wneud cyfeillgarwch hir oes ac i ennill profiad ymarferol a chreu cysylltiadau amhrisiadwy ar gyfer dyfodol disglair ar ôl gadael y Brifysgol.