Mae’r Caffi Peirianneg â Chymorth Cyfrifiadur yn cynnal sesiynau Zoom drwy Canvas ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau rhwng 1pm a 3pm yn ystod y tymor (o 7 Hydref i 11 Rhagfyr 2025). Ar ddydd Iau bydd y Caffi’n cynnal sesiwn hybrid, ac yn ogystal â’r opsiwn Zoom byddwn hefyd yn cwrdd yn Ystafell A027 Adeilad Canolog Peirianneg.
Sesiynau cymorth galw heibio yw'r rhain ar gyfer ymholiadau sy'n gysylltiedig â meddalwedd benodol i Beirianneg (gan gynnwys SOLIDWORKS, Matlab ac Ansys). Bydd staff ar gael i helpu gyda chwestiynau ynghylch meddalwedd a datrys problemau, ond ni fydd ganddynt wybodaeth benodol am waith modiwlau, ac ni fydd modd iddynt weithio gyda myfyrwyr ar aseiniadau penodol.
Wrth ymweld â'r Caffi, cofiwch lenwi'r holiadur presenoldeb ar ddechrau eich ymweliad.
Yn ogystal â'r Caffi CAE, mae tudalen HYB Canvas: Adnoddau Peirianneg yn cynnwys:
- Gwybodaeth am y feddalwedd sydd ar gael i fyfyrwyr Peirianneg.
- Gwybodaeth am fynediad o bell at gyfrifiadur personol.
- Adnoddau cymorth ar gyfer ANSYS, AutoCAD, MATLAB a SolidWorks.