Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu ein myfyrwyr newydd ym mis Ionawr 2026. Bydd eich amserlenni Sefydlu yn cael eu postio ar y dudalen hon yn agosach at ddechrau'r flwyddyn academaidd. Gallwch weld dyddiadau'r tymhorau ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd ar ddod Yma
Rhwng sesiynau sefydlu rhaglenni a gweithgareddau eraill ar y campws, cymerwch amser i ymweld â'r mannau arlwyo niferus sydd ar gael i chi: Gwasanaethau Arlwyo - Prifysgol Abertawe
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych angen cymorth ar unrhyw adeg, gallwch droi at Hwb. Hwb yw cartref gwybodaeth i fyfyrwyr.
Mae Hwb wedi’i gynllunio i wneud yn gyflym ac yn hawdd i chi gael mynediad at y cymorth, y gwasanaethau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch. Meddyliwch amdano fel un lle ar gyfer pob ateb.