Mynd i Ddigwyddiadau'r Wythnos Groeso
Cynhelir Wythnos Groeso Medi 2025 rhwng 22 a 26 Medi 2025, a bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau bob dydd. Dylet ti wneud ymdrech i fynd i'r holl ddigwyddiadau a restrir yn yr amserlen isod.
Mae digwyddiadau yn gyfle i gael cipolwg ar dy raglen radd ddewisol, gofyn cwestiynau a dod i adnabod staff a myfyrwyr yn dy adran. Edrychwn ymlaen at gwrdd â thi!
Oes angen help arnat ti i ddod o hyd i leoedd ar y campws? Gweler y mapiau o Gampws Singleton a Champws y Bae i'th helpu i ddod o hyd i leoliadau pob sesiwn.
Mae'r amserlen hon yn berthnasol i'r bobl sy'n dechrau ar Ffiseg Blwyddyn 0 (Sylfaen) & 1.
22 Medi 2025
11:00 - 12:30 - Sgwrs Groeso, Blwyddyn 0 ac 1 - 218, Wallace Building
Bydd staff academaidd allweddol o'ch Adran yn rhoi trosolwg i chi o'r hyn i'w ddisgwyl drwy gydol Blwyddyn 0 (Sylfaen) & 1 Ffiseg.
13:00 - 14:00 - Cinio Croeso, Blwyddyn 0 ac 1 - "Event Horizon", Adeliad Vivian
Ymuna â dy ffrindiau am gwis/ddigwyddiad cymdeithasol i groesawu pob myfyriwr newydd. Ffordd arbennig o ddechrau dy flwyddyn drwy gwrdd â ffrindiau newydd a meithrin rhwydweithiau newydd.
23 Medi 2025
11:00 - 12:30 - Sgwrs Groeso, Blwyddyn 0 ac 1 - E, Glyndwr Building
Bydd staff academaidd allweddol o'ch Adran yn rhoi trosolwg i chi o'r hyn i'w ddisgwyl drwy gydol Blwyddyn 0 (Sylfaen) & 1 Ffiseg.
26 Medi 2025
11:00-12:00 Sgwrs Groeso, Blwyddyn 0 ac 1 - E, Glyndwr Building
15:00 - 18:00 - Digwyddiad Cymdeithasol Croeso gyda'r Gymdeithas Ffiseg - C, Ty Fulton
Cyfle i gwrdd â phob myfyriwr Ffiseg ar gyfer twrnamaint Mario Kart dan arweiniad y gymdeithas, ynghyd â chyfle i gwrdd â myfyrwyr lefel uwch.
*Cyn i ti gyrraedd, gwna yn siŵr dy fod ti'n archwilio pa bethau eraill sy'n digwydd y tu allan i'th adran, a'r ffyrdd y gelli di baratoi ar gyfer dy raglen unwaith dy fod ti'n cofrestru. Awgrym euraidd: clustnoda'r tair tudalen isod i gychwyn arni!