Mynd i Ddigwyddiadau'r Wythnos Groeso
Cynhelir Wythnos Groeso Medi 2025 rhwng 22 a 26 Medi 2025, a bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau bob dydd. Dylet ti wneud ymdrech i fynd i'r holl ddigwyddiadau a restrir yn yr amserlen isod.
Mae digwyddiadau yn gyfle i gael cipolwg ar dy raglen radd ddewisol, gofyn cwestiynau a dod i adnabod staff a myfyrwyr yn dy adran. Edrychwn ymlaen at gwrdd â thi!
Oes angen help arnat ti i ddod o hyd i leoedd ar y campws? Gweler y mapiau o Gampws Singleton a Champws y Bae i'th helpu i ddod o hyd i leoliadau pob sesiwn.
Mae'r amserlen hon yn berthnasol i'r bobl sy'n dechrau ar Cemeg Blwyddyn 0 (Sylfaen) & 1.
22 Medi 2025
10:00 - 16:00 - Sgwrs Groeso, Blwyddyn 0 ac 1 - 344, Adeliad Grove
Bydd staff academaidd allweddol o'ch Adran yn rhoi trosolwg i chi o'r hyn i'w ddisgwyl drwy gydol Cemeg Blwyddyn 0 neu 1.
26 Medi 2025
13:00 - 16:00 - Sesiwn Sefydlu yn y Labordy, Blwyddyn 1 - 344, Adeliad Grove
Cyflwyniad i'r Labordy ar gyfer yr holl fyfyrwyr Cemeg Blwyddyn 1.
16:00 - 18:00 - Digwyddiad Cymdeithasol i'r Holl Fyfyrwyr Israddedig - gyda'r Gymdeithas Gemeg - B, Ty Fulton
Cyfle i gwrdd â'r holl fyfyrwyr Cemeg am gwis, a chwrdd â myfyrwyr lefel uwch.
*Cyn i ti gyrraedd, gwna yn siŵr dy fod ti'n archwilio pa bethau eraill sy'n digwydd y tu allan i'th adran, a'r ffyrdd y gelli di baratoi ar gyfer dy raglen unwaith dy fod ti'n cofrestru. Awgrym euraidd: clustnoda'r tair tudalen isod i gychwyn arni!
Amserlen Cemeg Blwyddyn 0 a Blwyddyn 1
Cynhelir Wythnos Groeso i fyfyrwyr newydd rhwng 25 a 29 Medi 2023.
Rhaid mynd i'r holl sesiynau y nodir eu bod yn rhai GORFODOL. Fodd bynnag, fe'ch anogir i fynd i’r holl sesiynau ar eich amserlen i gyrchu'r amrywiaeth lawn o wybodaeth a chymorth a fydd yn berthnasol i chi drwy gydol eich astudiaethau.
Mewn rhai digwyddiadau, cewch adnoddau penodol a fydd yn ddefnyddiol i chi drwy gydol y flwyddyn. Fyddwn ni ddim am i chi golli allan, felly sicrhewch eich bod chi'n dod!
I gael manylion am leoliad eich sesiynau, edrychwch ar y Gampws Parc Singleton