Croeso Ac Amserlenni

Mynd i Ddigwyddiadau'r Wythnos Groeso

Cynhelir Wythnos Groeso Medi 2025 rhwng 22 a 26 Medi 2025, a bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau bob dydd. Dylet ti wneud ymdrech i fynd i'r holl ddigwyddiadau a restrir yn yr amserlen isod.

Mae digwyddiadau yn gyfle i gael cipolwg ar dy raglen radd ddewisol, gofyn cwestiynau a dod i adnabod staff a myfyrwyr yn dy adran. Edrychwn ymlaen at gwrdd â thi!

Oes angen help arnat ti i ddod o hyd i leoedd ar y campws? Gweler y mapiau o Gampws Singleton a Champws y Bae i'th helpu i ddod o hyd i leoliadau pob sesiwn.

Mae'r amserlen hon yn berthnasol i'r bobl sy'n dechrau ar Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg Blwyddyn 1 

22 Medi 2025  

10:00 - 13:00 - Sgwrs Groeso, Blwyddyn 1 - A015, Adeliad Dwyreiniol Peirianneg  

Bydd staff academaidd allweddol o'ch Adran yn rhoi trosolwg i chi o'r hyn i'w ddisgwyl ym mlwyddyn 1 Peirianneg Deunyddiau. 

16:00 - 18:00  - Cwis Croeso a Digwyddiad Cymdeithasol a gynhelir gan y Gymdeithas Peirianneg Deunyddiau  - B014, Adeliad Canolog Peirianneg 

Dewch draw i ddod i adnabod eich Cymdeithas! Yn y sesiwn hon cynhelir cwis gan y Gymdeithas Peirianneg Deunyddiau gyda gwobrau i'w hennill! 

*Cyn i ti gyrraedd, gwna yn siŵr dy fod ti'n archwilio pa bethau eraill sy'n digwydd y tu allan i'th adran, a'r ffyrdd y gelli di baratoi ar gyfer dy raglen unwaith dy fod ti'n cofrestru. Awgrym euraidd: clustnoda'r tair tudalen isod i gychwyn arni!