Cynhelir Wythnos Groeso Medi 2025 rhwng 22 a 26 Medi 2025, a bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau bob dydd. Dylet ti wneud ymdrech i fynd i'r holl ddigwyddiadau a restrir yn yr amserlen isod.
Mae digwyddiadau yn gyfle i gael cipolwg ar dy raglen radd ddewisol, gofyn cwestiynau a dod i adnabod staff a myfyrwyr yn dy adran. Edrychwn ymlaen at gwrdd â thi!
Oes angen help arnat ti i ddod o hyd i leoedd ar y campws? Gweler y mapiau o Gampws Singleton a Champws y Bae i'th helpu i ddod o hyd i leoliadau pob sesiwn.
Mae'r amserlen hon yn berthnasol i'r bobl sy'n dechrau ar Mathemateg Blwyddyn 0 (Sylfaen) & 1.
22 Medi 2025
11:30 - 12:30 - Sgwrs Groeso Adrannol, Blwyddyn 0, 1 ac MSc - 002, Y Ffowndri Gyfrifiadol
Dylai pob myfyriwr sy'n dechrau Blwyddyn Sylfaen, Blwyddyn 1 neu MSc mewn rhaglen Mathemateg ymuno â'r Sgwrs Groeso Adrannol hon gyda Chyfarwyddwr eich Rhaglen.
12:30 - 16:00 - Sesiwn Galw Heibio, Cynrychiolwyr a Chymdeithasau - Ystafell Ddarllen Mathemateg, Y Ffowndri Gyfrifiadol
Galwch heibio i'r Ystafell Ddarllen Mathemateg - cyfle i ymgyfarwyddo â'r man astudio allweddol hwn, cwrdd â Chynrychiolydd eich Ysgol, a chael gwybod am y gymdeithas Fathemateg.
15:00 - 16:00 - Sgwrs am Raglenni Ôl-raddedig a Addysgir (Pob MSc mewn Mathemateg) - 002, Y Ffowndri Gyfrifiadol
Bydd staff academaidd allweddol o'ch Adran yn rhoi trosolwg i chi o'r hyn i'w ddisgwyl drwy gydol eich MSc.
23 Medi 2025
13:00 - 16:00 - Digwyddiad Cymdeithasol Croeso, Blwyddyn 0, 1 ac Ôl-raddedig a Addysgir - 108, Y Twyni
Join your peers for a social to welcome all new MSc Students. A great way to start your year by forming new friendships and networks. There will also be an opportunity to win some prizes!
*Cyn i ti gyrraedd, gwna yn siŵr dy fod ti'n archwilio pa bethau eraill sy'n digwydd y tu allan i'th adran, a'r ffyrdd y gelli di baratoi ar gyfer dy raglen unwaith dy fod ti'n cofrestru. Awgrym euraidd: clustnoda'r tair tudalen isod i gychwyn arni!