Neges Groeso - MSc Bioamrywiaeth a Chadwraeth Fyd-eang
Annwyl fyfyrwyr,
Croeso cynnes iawn i chi i Brifysgol Abertawe ac i'r rhaglen MSc Bioamrywiaeth a Chadwraeth Fyd-eang!
Fy enw i yw Dr Aisling Devine, a fi yw Cyfarwyddwr y Rhaglen MSc. Fi fydd yn gyfrifol am sicrhau bod eich amser gyda ni'n ddidrafferth, a'ch bod yn cael y profiad myfyriwr gorau posibl. Byddaf hefyd yma i'ch helpu wrth i chi bontio i astudiaethau ôl-raddedig a'ch tywys drwy eich taith academaidd dros y flwyddyn i ddod.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi wyneb yn wyneb a'ch integreiddio i'n hadran Biowyddorau. Yn ystod yr Wythnos Groeso, byddwch yn cymryd rhan mewn sesiwn sefydlu lle byddwch chi'n cwrdd â chyd-fyfyrwyr a staff allweddol. Byddwn hefyd yn cynnal ystod o ddigwyddiadau cymdeithasol ac academaidd sy'n ymwneud â'r biowyddorau yn ystod y flwyddyn i'ch helpu i deimlo'n rhan o'r gymuned o'r cychwyn cyntaf.
Yn ystod y rhaglen byddwch chi'n cymryd rhan mewn darlithoedd, gwaith maes, a sesiynau ymarferol wedi'u cyflwyno gan ymchwilwyr bioamrywiaeth a chadwraeth sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang. Byddwch hefyd yn derbyn tiwtor academaidd a fydd yn cefnogi eich datblygiad personol ac academaidd wrth i chi wneud cynnydd drwy eich astudiaethau ôl-raddedig.
Os oes gennych gwestiynau cyn cyrraedd, anfonwch e-bost ataf yn a.p.devine@abertawe.ac.uk.
Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi a'ch croesawu i Adran y Biowyddorau.
Cofion gorau, Aisling
Neges Groeso - MSc mewn Adfer a Chadwraeth Morol
Annwyl fyfyrwyr,
Croeso cynnes iawn i Brifysgol Abertawe a'r rhaglen MSc mewn Adfer a Chadwraeth Morol!
Fy enw i yw Dr Aisling Devine, a fi yw Cyfarwyddwr Rhaglen y cwrs hwn. Fi fydd yn gyfrifol am sicrhau bod popeth yn ddidrafferth a'ch bod chi'n cael profiad myfyriwr rhagorol yn ystod eich amser gyda ni. Rydw i hefyd yma i'ch helpu wrth i chi bontio i astudiaethau ôl-raddedig a'ch tywys drwy'r flwyddyn gyffrous sydd o'ch blaenau.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi i'r rhaglen newydd sbon hon – y radd MSc gyntaf yn y byd sy'n canolbwyntio'n benodol ar adfer morol. Rydych chi'n ymuno â ni ar adeg hollbwysig mewn gwyddor morol, wrth i'r Cenhedloedd Unedig gyhoeddi mai hwn yw'r degawd ar gyfer adfer ecosystemau.
Bydd gennych chi'r cyfle i archwilio cysyniadau hanfodol mewn adfer a chadwraeth morol drwy ddarlithoedd, gwaith maes, sesiynau labordy a gwaith ymarferol ar gwch. Cyflwynir ein haddysg gan ymchwilwyr ac ymarferwyr gwyddor forol blaenllaw, gan sicrhau eich bod yn ennill gwybodaeth arloesol a phrofiad ymarferol drwy gydol y flwyddyn.
Yn ystod yr Wythnos Groeso, byddwch yn cymryd rhan mewn sesiwn sefydlu i gwrdd â'ch cyd-fyfyrwyr a staff academaidd allweddol. Byddwn hefyd yn cynnal ystod o ddigwyddiadau cymdeithasol ac academaidd sy'n ymwneud â'r môr a'r biowyddorau i'ch helpu i ymgartrefu, creu cysylltiadau a theimlo'n rhan lawn o'n cymuned adrannol.
Byddwch hefyd yn derbyn tiwtor academaidd a fydd yn eich cefnogi drwy gydol y rhaglen a bydd yn helpu eich datblygiad academaidd a phersonol wrth i chi wneud cynnydd fel myfyriwr ôl-raddedig.
Os oes gennych gwestiynau cyn i chi gyrraedd, anfonwch e-bost ataf yn a.p.devine@abertawe.ac.uk
Unwaith eto, croeso - edrychwn ymlaen at gwrdd â chi a chychwyn y flwyddyn gyffrous hon gyda'n gilydd.
Dymuniadau gorau, Aisling
Croeso gan Gyfarwyddwr y Rhaglen MRes
Croeso cynnes i'r Rhaglen Ymchwil Ôl-raddedig 'Gradd Meistr drwy Ymchwil' yn y Biowyddorau. Mae astudiaethau ymchwil ôl-raddedig yn wahanol iawn i'ch profiad yn y brifysgol hyd yn hyn gan y byddwch yn gweithio'n llawer mwy annibynnol i ddatblygu eich sgiliau ymchwil sy'n eich arwain at eich traethawd hir a'ch arholiad llafar. Felly, os ydych chi wedi bod yn fyfyriwr israddedig yma ym Mhrifysgol Abertawe neu wedi dod o rywle arall, bydd ein rhaglen sefydlu'n amhrisiadwy i'ch helpu i ddeall y rhaglen radd MRes a sut i gael cymorth gan adrannau academaidd a gweinyddol gwahanol yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.
Mae'r sgyrsiau sefydlu'n gosod y llwybr i chi ar gyfer y 12 mis nesaf o astudio. Yn syth ar ôl y sesiwn sefydlu, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â thri modiwl a addysgir i ddarparu ystod o sgiliau gwyddoniaeth craidd iddynt (gan gynnwys dulliau ymchwil, dadansoddi data ac ysgrifennu gwyddonol) sy'n tanategu dewisiadau a phenderfyniadau a wneir ym mis Rhagfyr i ddylunio a chynnal prosiect ymchwil am 9 mis rhwng mis Ionawr a mis Medi.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i'r holl weithgareddau sefydlu ac yn arbennig sgwrs sefydlu eich rhaglen ac iechyd a diogelwch i'ch helpu i baratoi ar gyfer gwaith prosiect ac yn bwysicaf oll, y digwyddiad cymdeithasol i gwrdd â phobl eraill ar eich cwrs a staff academaidd. Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi a thrafod eich diddordebau ymchwil i ddechrau ar drafodaethau eich prosiect gyda darpar oruchwylwyr.
Dr Nicole Esteban
Cyfarwyddwr Rhaglen, MRes y Biowyddorau