Mynd i Ddigwyddiadau'r Wythnos Groeso
Cynhelir Wythnos Groeso Medi 2025 rhwng 22 a 26 Medi 2025, a bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau bob dydd. Dylet ti wneud ymdrech i fynd i'r holl ddigwyddiadau a restrir yn yr amserlen isod.
Mae digwyddiadau yn gyfle i gael cipolwg ar dy raglen radd ddewisol, gofyn cwestiynau a dod i adnabod staff a myfyrwyr yn dy adran. Edrychwn ymlaen at gwrdd â thi!
Oes angen help arnat ti i ddod o hyd i leoedd ar y campws? Gweler y mapiau o Gampws Singleton a Champws y Bae i'th helpu i ddod o hyd i leoliadau pob sesiwn.
Mae'r amserlen hon yn berthnasol i'r bobl sy'n dechrau MSc Cyfrifiadureg.
26 Medi 2025
10:00 - 12:00 - Sgwrs Groeso, MSc Cyfrifiadureg (Anarbenigol) - 002, Y Ffowndri Gyfrifiadol
Meet your student course mates for the first time along with Academic staff from your department who will introduce your programme of study, provide you with key academic information and direct you to useful course resources.
14:00 - 16:00 Disgwyddiad cymdeithasol i bob rhaglen MSc - 002, Y Twyni, Campws y Bae
Ymuna â dy ffrindiau am gwis/ddigwyddiad cymdeithasol i groesawu pob myfyriwr MSc newydd. Ffordd arbennig o ddechrau dy flwyddyn drwy gwrdd â ffrindiau newydd a meithrin rhwydweithiau newydd. Bydd cyfle hefyd i ennill gwobrau!
*Cyn i ti gyrraedd, gwna yn siŵr dy fod ti'n archwilio pa bethau eraill sy'n digwydd y tu allan i'th adran, a'r ffyrdd y gelli di baratoi ar gyfer dy raglen unwaith dy fod ti'n cofrestru. Awgrym euraidd: clustnoda'r tair tudalen isod i gychwyn arni!