Mynd i Ddigwyddiadau'r Wythnos Groeso

Cynhelir Wythnos Groeso Medi 2025 rhwng 22 a 26 Medi 2025, a bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau bob dydd. Dylet ti wneud ymdrech i fynd i'r holl ddigwyddiadau a restrir yn yr amserlen isod.

Mae digwyddiadau yn gyfle i gael cipolwg ar dy raglen radd ddewisol, gofyn cwestiynau a dod i adnabod staff a myfyrwyr yn dy adran. Edrychwn ymlaen at gwrdd â thi!

Oes angen help arnat ti i ddod o hyd i leoedd ar y campws? Gweler y mapiau o Gampws Singleton a Champws y Bae i'th helpu i ddod o hyd i leoliadau pob sesiwn.

Neges groeso gan eich cydlynydd MSc

Croeso i dy gwrs MSc Peirianneg Gyfrifiadol. Does dim ots pa lwybr y gwnest ti ei ddilyn i gyrraedd yma, rwyt ti bellach yn wynebu heriau a chyfleoedd cyffrous dros yr ychydig flynyddoedd nesaf!   Gwna'n fawr o weithgareddau'r Wythnos Groeso i ddeall dy gwrs, polisïau'r Brifysgol a dulliau cefnogi.

Gwna'n siŵr dy fod yn cymryd rhan yn y digwyddiadau cymdeithasol a fydd yn dy helpu i ddod i adnabod dy gyd-fyfyrwyr newydd - byddi di'n gweithio'n agos iawn gyda nhw'n fuan iawn.  Fel cydlynydd dy MSc, byddaf yn delio ag unrhyw broblemau sy'n codi yn ystod dy gyfnod astudio yn Abertawe, gan gynnig cymorth a bod yn bwynt cyswllt ar gyfer dy adborth. Gelli di gysylltu â mi drwy e-bostio r.sevilla@abertawe.ac.uk

Bydd yr wythnosau nesaf yn heriol, felly mae pob croeso i ti ofyn am gymorth gan academyddion, y dderbynfa, y llyfrgell, swyddogion cymorth i fyfyrwyr, a thimau technegol.Rydym yn hynod falch o'r gwahanol fecanweithiau cymorth sydd ar gael a byddwn yn dy hysbysu amdanynt mewn pryd.Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â thi a dy gefnogi ar dy daith i fod yn Beiriannydd Cyfrifiadol.

Yr Athro Rubén Sevilla – Cydlynydd MSc Peirianneg Gyfrifiadol a Mecaneg Gyfrifiadol.

Mae'r amserlen hon yn berthnasol i'r bobl sy'n dechrau ar MSc mewn Mecaneg Gryfrifiadurol. 

26 Medi 2025 

10:00 - 11:00 - Sgwrs Groeso, MSc Peirianneg Gyfrifiadol  - 103, Yr Ysgol Reolaeth 

Cwrdd â'ch cyd-fyfyrwyr cwrs am y tro cyntaf yn ogystal â Staff Academaidd Allweddol o'ch Adran a fydd yn eich cyflwyno i'ch rhaglen astudio, yn rhoi i chi wybodaeth academaidd allweddol ac yn eich cyfeirio at adnoddau cwrs defnyddiol.

13:00 - 14:00 - Sgwrs MSc gyda Blwyddyn mewn Diwydiant - Rhaglenni Peirianneg - B001, Adeliad Canolog Peirianneg 

I'r rhai sy'n dechrau MSc gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, dewch i'r sesiwn hon gyda Dr Vasileios Samaras a fydd yn rhoi trosolwg o'r hyn i'w ddisgwyl drwy gydol eich rhaglen. 

14:00 - 16:00 Disgwyddiad cymdeithasol i bob rhaglen MSc - 002, Y Twyni, Campws y Bae

Ymuna â dy ffrindiau am gwis/ddigwyddiad cymdeithasol i groesawu pob myfyriwr MSc newydd. Ffordd arbennig o ddechrau dy flwyddyn drwy gwrdd â ffrindiau newydd a meithrin rhwydweithiau newydd. Bydd cyfle hefyd i ennill gwobrau!

*Cyn i ti gyrraedd, gwna yn siŵr dy fod ti'n archwilio pa bethau eraill sy'n digwydd y tu allan i'th adran, a'r ffyrdd y gelli di baratoi ar gyfer dy raglen unwaith dy fod ti'n cofrestru. Awgrym euraidd: clustnoda'r tair tudalen isod i gychwyn arni!