Mynd i Ddigwyddiadau'r Wythnos Groeso

Cynhelir Wythnos Groeso Medi 2025 rhwng 22 a 26 Medi 2025, a bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau bob dydd. Dylet ti wneud ymdrech i fynd i'r holl ddigwyddiadau a restrir yn yr amserlen isod.

Mae digwyddiadau yn gyfle i gael cipolwg ar dy raglen radd ddewisol, gofyn cwestiynau a dod i adnabod staff a myfyrwyr yn dy adran. Edrychwn ymlaen at gwrdd â thi!

Oes angen help arnat ti i ddod o hyd i leoedd ar y campws? Gweler y mapiau o Gampws Singleton a Champws y Bae i'th helpu i ddod o hyd i leoliadau pob sesiwn.

Mae'r amserlen hon yn berthnasol i'r bobl sy'n dechrau ar MSc mewn Peirianneg Biofeddygol. 

26th September 2025

10:00 - 11:00 - Croeso a Sefydlu, MSc Peirianneg Biofeddygol- 122, Yr Ysgol Reoliaeth 

Cwrdd â'ch cyd-fyfyrwyr cwrs am y tro cyntaf yn ogystal â Staff Academaidd Allweddol o'ch Adran a fydd yn eich cyflwyno i'ch rhaglen astudio, yn rhoi i chi wybodaeth academaidd allweddol ac yn eich cyfeirio at adnoddau cwrs defnyddiol.

14:00 - 16:00 Disgwyddiad cymdeithasol i bob rhaglen MSc - 002, Y Twyni, Campws y Bae

Ymuna â dy ffrindiau am gwis/ddigwyddiad cymdeithasol i groesawu pob myfyriwr MSc newydd. Ffordd arbennig o ddechrau dy flwyddyn drwy gwrdd â ffrindiau newydd a meithrin rhwydweithiau newydd. Bydd cyfle hefyd i ennill gwobrau!

*Cyn i ti gyrraedd, gwna yn siŵr dy fod ti'n archwilio pa bethau eraill sy'n digwydd y tu allan i'th adran, a'r ffyrdd y gelli di baratoi ar gyfer dy raglen unwaith dy fod ti'n cofrestru. Awgrym euraidd: clustnoda'r tair tudalen isod i gychwyn arni!