Caffael a Rheoli Cyfarpar Labordy

Wal labordy gydag offer nodweddiadol

Cyflwyniad

Mae'r canllawiau a geir yma wedi'u cynllunio i gefnogi pob cam o reoli offer labordy — o gynllunio pryniant newydd, i drefnu atgyweiriadau neu fenthyciadau, neu waredu offer nad oes ei angen mwyach yn ddiogel.

Cyn ymrwymo i unrhyw wariant, atgyweiriadau neu symudiadau, mae'n bwysig dilyn y gweithdrefnau cywir a nodir ar y dudalen hon.

Rolau a Chyfrifoldebau

Prif Ymchwilwyr

Arwain wrth ymchwilio i anghenion cyfarpar gan gyd-fynd â nodau ymchwil, dyraniad cyllidebau a chynllunio strategol.

Prynu eitemau gwerth sylweddol neu awdurdodi hyn, gan sicrhau bod yr eitemau a brynir yn cydymffurfio â safonau ymchwil a chanllawiau diogelwch a chynaliadwyedd.

Sicrhau bod yr holl ddogfennaeth am ddefnyddio’r cyfarpar, protocolau diogelwch a chydymffurfiaeth reoleiddiol yn cael ei chadw'n gyfredol. Mae hyn yn cynnwys gweithdrefn weithredu safonol ar gyfer eu cyfarpar dadansoddi.

Arwain defnydd diogel ac effeithiol o gyfarpar, yn enwedig ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar a myfyrwyr.

Cyfleu anghenion i adnewyddu neu gael gwared â chyfarpar i'r Pwyllgor Cyfarpar mewn cydweithrediad â'r Tîm Cydymffurfiaeth Dechnegol.

Staff Ymchwil Myfyrwyr Y Tîm Cydymffurfiaeth Dechnegol

Dysgwch fwy am Bolisïau Iechyd a Diogelwch a pholisïau Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe.