Mae llawer o gyflenwyr a ffynonellau cyfarpar labordy gan gynnwys:
1. Gweithgynhyrchwyr OEM sy'n gallu cynnig cyfarpar ail law (cyfarpar arddangos fel arfer) sydd ar werth â gwarant lawn.
2. Gwefannau arwerthiant ar-lein megis ebay - nid yw polisi'r brifysgol yn cefnogi prynu cyfarpar o'r platfformau hyn oherwydd nad yw'r cyfarpar wedi'i brofi fel arfer, nid oes ganddo lawlyfrau na gwarant a gallai fod yn beryglus.
3. Cyflenwyr trydydd parti - dyma gwmnïau sy'n arbenigo mewn darparu cyfarpar labordy ail law. Pethau i'w hystyried wrth ddewis y llwybr hwn:
a. Mae rhai gwerthwyr yn cynnig gwarantau gyda'u cyfarpar, ond gwiriwch delerau'r rhain - mewn rhai achosion, dim ond credyd gaiff ei gynnig os bydd cyfarpar yn ddiffygiol, yn hytrach nag ad-daliad llawn neu atgyweirio.
b. Gofynnwch am weld y cyfarpar yn cael ei arddangos. Mae'n rhaid i chi weld y cyfarpar yn cael ei brofi'n llawn a bydd cyflenwyr gwell yn fwy na hapus i anfon fideo o arddangosiad.
c. Darllenwch adolygiadau a gofyn am eirdaon: rydych chi eisiau bod yn dawel eich meddwl bod y cyflenwr yn ddibynadwy. Gofynnwch am farn pobl a gwneud eich ymchwil cyn ymrwymo i ddim
d. Gofynnwch am hanes y cyfarpar: Gofynnwch i'r gwerthwr am unrhyw broblemau hysbys gyda'r cyfarpar. Oes unrhyw hanes o waith cynnal a chadw gan y peiriant i ddangos ei fod wedi cael ei gynnal a'i gadw'n iawn?
Sylwer, os ydych chi'n ystyried prynu cyfarpar ail law neu gael gwared â hen gyfarpar, cysylltwch â'r Tîm Cydymffurfiaeth:
- Max Tolley - 01792 604460
- Carl Roberts - 01792 295275
- Greg Barber - 01792 602238