I sicrhau bod cyfarpar labordy yn gweithredu ac yn cydymffurfio yn y tymor hir, mae cynllunio adnewyddu a chynnal a chadw priodol yn hanfodol.
Negodi Gwarantau Estynedig a Chynlluniau Gwasanaeth
Os yw academyddion yn prynu cyfarpar nad yw'n cael ei ystyried yn gyfarpar craidd gan y Pwyllgor Cyfarpar dylent gynllunio ymlaen llaw, oherwydd na fydd y Gyfadran yn talu costau gwasanaethu eu cyfarpar. Argymhellir yn gryf bod ymchwilwyr yn trefnu gwarantau estynedig a chynlluniau gwasanaeth wrth gynllunio i brynu cyfarpar, er mwyn sicrhau cymorth hirdymor a lleihau costau cynnal a chadw annisgwyl.
Os ydych chi o'r farn bod eich cyfarpar yn Graidd, gallwch ofyn i'r Pwyllgor Cyfarpar am gymorth gwasanaethu. Cysylltwch â'r pwyllgor i ofyn am ffurflen cais am Gymorth Cynnal a Chadw'r Gyfadran