Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd dysgu a gwaith lle mae myfyrwyr, staff ac ymwelwyr yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu galluogi i gyflawni eu potensial personol. Os oes rhywbeth yn gwneud i chi deimlo'n anniogel neu mewn perygl, boed ar y campws neu oddi arno, rhowch wybod i ni amdano. Rydym yma i gynnig cyngor ac arweiniad a sicrhau eich bod yn cael eich cefnogi yn y ffordd sydd orau i chi.