Gobeithiwn dy fod yn mwynhau'r haf! Byddi di'n ymuno â ni cyn bo hir, ac rydyn ni wir yn edrych ymlaen at dy groesawu i'n campysau hardd.

I'ch helpu i setlo i mewn a gwneud y gorau o'ch amser yma, rydym wedi llunio canllaw i'r cymorth a'r gweithgareddau sydd ar gael. P'un a ydych chi'n edrych i gadw'n iach, gofalu am eich lles, rheoli eich cyllid, llwyddo yn eich astudiaethau, neu wneud ffrindiau newydd, mae timau ac adnoddau yn barod i helpu.

Gwneud ffrindiau

Mae yna lwyth o ffyrdd i gwrdd â phobl newydd yn y brifysgol! O ymuno â chymdeithasau a chlybiau chwaraeon, i wirfoddoli gyda chymdeithasau elusennol lleol – mae digon o gyfleoedd. Mae creu rhwydwaith cymorth yn ffordd wych o wella eich iechyd meddwl a llesiant – gallwch hyd yn oed sgwrsio â myfyrwyr tebyg i chi drwy UniBuddy!

Cadw'n heini ac yn egnïol

Gall cymryd rhan mewn chwaraeon a chynnal ffordd o fyw egnïol gynnig llawer o fanteision i iechyd a llesiant, megis gwneud ffrindiau, rhoi cynnig ar brofiadau newydd, a chadw'n heini ac yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol.

Gyda mwy na 55 o glybiau chwaraeon i ddewis ohonynt a chyfleusterau rhagorol ar y ddau gampws, rydym yn cynnig popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer ffordd o fyw iach ac egnïol.

Os mai gwneud ffrindiau a chadw'n heini ac yn iach yw eich nod, mae ein rhaglen Get ACTIVE hygyrch a chynhwysol yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau hwyliog a sesiynau blasu i gefnogi iechyd meddwl cadarnhaol a llesiant.

Lles a chymorth personol

Mae ein tîm o arbenigwyr lles yn cynnig cyngor ac arweiniad ymarferol a mynediad at gymorth arbenigol. Maen nhw'n gweithio'n agos gyda staff a phartneriaid allanol y Brifysgol i sicrhau dy fod yn cael dy gefnogi drwy gydol dy astudiaethau.

Cyngor a Chymorth Ariannol

Mae ein Tîm Cyngor Ariannol yma i'th helpu i reoli dy arian. Maen nhw'n cynnig cyngor ar gyllid myfyrwyr, cyllidebu a chaledi ariannol, a gallan nhw hefyd gefnogi myfyrwyr sydd ag ystyriaethau ychwanegol, megis ymadawyr gofal, myfyrwyr sydd wedi'u dieithrio o'u teuluoedd a myfyrwyr sy'n feichiog.

Mae rhagor o wybodaeth ar y tudalennau gwe Cyngor Ariannol

Ffydd a Myfyrio

Mae ein tîm cymorth ffydd yn darparu lleoedd aml-ffydd ar y ddau gampws, yn ogystal â gwasanaethau fel myfyrdod, cymorth profedigaeth a gwasanaeth gwrando cyfrinachol.

Cymorth i Ymadawyr Gofal a Myfyrwyr sydd wedi'u Dieithrio o'u Teuluoedd

Mae cymorth penodol ar gael i ymadawyr gofal a myfyrwyr sydd wedi'u dieithrio o'u teuluoedd. Mae hyn yn cynnwys cymorth gyda llety, materion ariannol a bywyd academaidd, er mwyn i ti allu gwneud penderfyniadau gwybodus a theimlo'n hyderus yn dy fywyd fel myfyriwr.

Gwasanaethau Lles ac Anabledd

Mae'r Gwasanaethau Lles ac Anabledd yn darparu cyngor, arweiniad a chymorth ymarferol ac emosiynol i fyfyrwyr sydd ag:

  • Anableddau corfforol neu synhwyraidd
  • Cyflyrau meddygol hirdymor
  • Cyflyrau iechyd meddwl
  • Gwahaniaethau Dysgu Penodol
  • Cyflyrau'r Sbectrwm Awtistiaeth

Mae'r tîm yn cynnig cyngor ar yr addasiadau rhesymol sydd ar gael i ti, i helpu i leihau'r effaith y gall dy gyflwr ei chael ar dy astudiaethau academaidd, a’th helpu i gael y gorau o’th amser yn Abertawe.

Gallan nhw helpu myfyrwyr i gael addasiadau rhesymol, cyflwyno cais am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabla chysylltu â gwasanaethau cwnsela neu fentora. Rhagor o wybodaeth am dy opsiynau iechyd a lles yma.

Sut gallaf ofyn am gymorth?

Os wyt ti'n credu bod angen cymorth gan y Gwasanaeth Lles ac Anabledd arnat ti, dylet ti gwblhau Ffurflen Cymorth Myfyrwyr.

Ar ôl adolygu dy ffurflen, byddwn ni'n cysylltu â thi er mwyn rhoi cyngor i ti ar y camau nesaf.

Cofrestru gyda Meddyg Teulu

Mae dy iechyd yn bwysig iawn i ni, fel y mae i ti hefyd siŵr o fod! Cofia gofrestru gyda meddyg teulu pan fyddi di'n cyrraedd Abertawe. Mae llawer o feddygfeydd ar draws y ddinas, ond byddem yn argymell y rhai canlynol am eu bod yn agos at y campws:

Campws Parc Singleton

Campws y Bae

Angen help ar campws? Lawrlwythwch SafeZone.

Mae ein Tîm Diogelwch ac Ymateb Campws yma 24/7 - p'un a ydych chi'n teimlo'n anniogel, angen cefnogaeth, neu rydych chi wedi'ch cloi allan.

Mae SafeZone yn ap am ddim sy'n eich cysylltu â'n tîm yn gyflym ac yn gynnil. Lawrlwythwch ef nawr a gwybod bod help yn unig tap i ffwrdd.

Cadwch y dyddiad: Ffair gwybodaeth i Fyfyrwyr

Cysylltwch â’n timau cymorth, adrannau academaidd, a gwasanaethau allanol i gyd mewn un lle! Bydd y Ffair Wybodaeth yn rhoi cyfle i chi archwilio’r cymorth sydd ar gael i chi wrth i chi ymgartrefu ym mywyd prifysgol