Ym mha sefyllfaoedd nad yw crynodebau a nodiadau a baratowyd ymlaen llaw'n addas
Mae crynodebau a nodiadau a baratowyd ymlaen llaw yn adnodd i gefnogi heriau'r cof a phrosesu, ac nid ydynt yn briodol ar gyfer pob math o asesiad. Mae rhai arholiadau'n profi'r canlynol:
- Adalw gwybodaeth fanwl heb gymorth
- Cymhwyso cysyniadau mewn senarios anghyfarwydd
- Meddwl yn feirniadol neu'n ddadansoddol heb brociau
- Safonau proffesiynol neu reoleiddio sy'n galw am amodau llyfr caeedig
Yn yr achosion hyn, gallai caniatáu crynodebau neu nodiadau a baratowyd ymlaen llaw niweidio uniondeb neu ddeiliannau dysgu arfaethedig yr asesiad ac yn yr achos hwnnw efallai bydd asesiad amgen yn fwy priodol.
Sut i greu crynodeb neu nodiadau a baratowyd ymlaen llaw
Gwiriwch am gyfarwyddiadau penodol gan gydlynydd eich modiwl:gall yr hyn sy'n cael ei ganiatáu amrywio o bwnc i bwnc neu yn ôl y math o arholiad.Byddwch hefyd yn cael gwybod a ddylech ddefnyddio crynodeb neu nodiadau a baratowyd ymlaen llaw.
Os na cheir cyfarwyddiadau mwy penodol, dilynwch y canlynol:
Ar gyfer crynodebau:
Ar gyfer nodiadau a baratowyd ymlaen llaw
Ni ddylai eich nodiadau a baratowyd ymlaen llaw fod yn fwy na dwy dudalen A4. Gallant gael eu teipio (maint ffont safonol e.e. 12pt) neu eu hysgrifennu â llaw. Gallant gynnwys esboniadau llawn, enghreifftiau ymarferol a diagramau.
Rhaid i chi gyflwyno eich crynodebau neu’ch nodiadau a baratowyd ymlaen llaw erbyn y dyddiad cau a bennwyd gan y tîm asesu.Rhaid i fformat a strwythur eich crynodebau neu’ch nodiadau a baratowyd ymlaen llaw gael eu cymeradwyo gan gydlynydd eich modiwl.
Bydd y crynodeb neu’r nodiadau a baratowyd ymlaen llaw cymeradwy yn cael eu hargraffu gan y tîm asesu a'u rhoi i chi yn lleoliad yr arholiad.Bydd disgwyl i chi eu cyflwyno nhw gyda phapur eich arholiad ar ddiwedd yr arholiad.