Hwb yw cartref gwybodaeth i fyfyrwyr yma ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'r tîm cyfeillgar yma i'ch cefnogi drwy gydol eich taith myfyriwr.

Hwb yw eich canolfan ar gyfer popeth sy'n ymwneud â bywyd myfyrwyr, p'un ag oes angen cymorth arnoch gyda'ch cofnod myfyriwr, arholiadau, trefnu apwyntiadau neu gasglu eich cerdyn adnabod, gall Hwb eich helpu ar-lein neu yn bersonol.

Yn ystod eich amser yma, Hwb fydd eich stop cyntaf am gyngor, cefnogaeth, ac yn eich pwyntio i'r cyfeiriad cywir, nid oes unrhyw gwestiwn yn rhy fawr nac yn rhy fach!