Mae lleoliad casglu eich cerdyn yn dibynnu ar y cwrs rydych yn ei astudio a ble mae wedi’i leoli. Darllenwch ein tudalen Casglu Cerdyn Adnabod am ragor o wybodaeth.
- Os yw eich cwrs wedi’i leoli ar Gampws Parc Singleton, gallwch gasglu eich cerdyn adnabod o ddesg Hwb Campws Singleton, sydd wedi’i lleoli yn y Technium Digidol (adeilad 24 ar fapiau’r campws).
- Os yw eich cwrs wedi’i leoli ar Gampws y Bae, gallwch gasglu eich cerdyn adnabod o ddesg Hwb Campws y Bae, sydd wedi’i lleoli yn Engineering Central (adeilad 4 ar fapiau’r campws).
- Os yw eich cwrs wedi’i leoli ar Gampws Parc Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, fe'ch hysbysir sut i gasglu eich cerdyn.
Gallwch wirio lleoliadau adeiladau ar ein mapiau campws yma.
(Sylwch: efallai na fydd y campws lle mae eich cwrs wedi’i leoli yr un peth â’ch llety. Os nad ydych yn siŵr ble mae eich cwrs wedi’i leoli, gallwch wirio hyn ar eich proffil myfyriwr ar fewnrwyd y Brifysgol.)
Bydd casglu Cerdyn Adnabod ar gael yn ystod oriau agor desg Hwb, rhwng 8.30yb – 5.00yp.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cwblhau’r rhestr wirio isod cyn mynd i gasglu eich cerdyn:
- Uwchlwythwch eich llun fel y gallwn argraffu eich cerdyn ymlaen llaw
- Cwblhewch eich cofrestriad ar-lein
- Gwiriwch eich lleoliad casglu a’r oriau agor
- Cofiwch ddod â’r pasbort neu’r ID arall a uwchlwythoch i’r fewnrwyd cyn cofrestru