Bob blwyddyn mae'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn anelu at recriwtio dros 400 o Gynrychiolwyr Pwnc ar gyfer y flwyddyn academaidd.

Gallwch ddarganfod a oes swydd wag yn eich cwrs drwy chwilio am eich Cynrychiolydd ar wefan Undeb y Myfyrwyr.

I ddod o hyd i'ch Cynrychiolwyr Ysgol a Phwnc 2025-2026 cliciwch yma.

Felly, beth mae Cynrychiolydd Myfyrwyr yn ei wneud?

Yn syml, Cynrychiolwyr Myfyrwyr yw'r pont rhyngoch chi a'ch Ysgol. Maent yma i gasglu eich adborth, cyfleu eich barn i'r Brifysgol a gweithio gyda staff i wneud gwelliannau i'ch addysg.

Nid yw hynny'n golygu na all pob myfyriwr fynd at eu darlithwyr neu staff y Gyfadran os oes ganddynt broblem neu awgrym, fodd bynnag, mae Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn eistedd ar bwyllgorau'r Brifysgol felly gallant fynd â'ch adborth yn uniongyrchol at staff a gweithio ar atebion i wella'ch profiad.

Mae pob Cynrychiolydd yn derbyn hyfforddiant a'r cyfle i fynychu gweithdai arbenigol. Nid yn unig y mae'n wych ar gyfer eich CV, mae hefyd yn rôl werth chweil iawn!

Swnio fel rhywbeth y byddech chi'n dda ynddo?

Yna sefwch i fod yn Gynrychiolydd! Nid oes angen unrhyw brofiad arnoch, dim ond angerdd dros wella profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.