Ystyriwch y canlynol:
Beth sy'n gwneud addysgu'r darlithydd hwn yn wych?
- Beth sy'n rhagorol am ei addysgu?
- A yw ei addysgu'n arloesol? Os felly, beth mae'n ei wneud sy'n wahanol? Oes ganddo ymagwedd greadigol?
- A yw ei addysgu'n gynhwysol? A ydych chi'n teimlo eich bod chi'n cael eich cynnwys yn bersonol yn y profiad dysgu?
- A yw'n defnyddio Canvas (y Platfform Dysgu Digidol) yn dda?
- Sut mae wedi'ch cynnwys mewn dysgu cyfunol/dysgu o bell? A yw’r darlithydd wedi defnyddio meddalwedd recordio darlithoedd? Zoom? Teams?
- Pa fath o ddulliau addysgu mae’r darlithydd yn eu defnyddio yn gyffredinol? Gwaith grŵp? Trafodaeth? Cwestiynu? Cwisiau?
- A oes ganddo ffyrdd o wneud pethau sy'n arbennig o dda wrth eich helpu i ddysgu?
- Pa mor dda rydych chi'n teimlo eich bod chi'n cael eich cefnogi yn eich dysgu? Beth sy'n gwneud i chi deimlo fel hyn?
- A oes adnoddau ar gyfer y cwrs i gefnogi eich dysgu? Fideos? Taflenni? Sleidiau PowerPoint? etc. Os felly, ydyn nhw'n dda? A ydyn nhw'n ddefnyddiol yn eich barn chi?
- Sut beth yw awyrgylch yr amgylchedd dysgu? Anffurfiol? Cefnogol? Cyffrous? Diddorol? Yn eich ysbrydoli? Difyr?
- Sut cewch eich asesu? (nid adborth yn unig - darllenwch ymlaen am ragor o wybodaeth am hynny)
Beth am ei adborth?
- Cofiwch fod adborth yn fwy nag ymateb ffurfiol i waith ysgrifenedig. Gall fod:
- yn anffurfiol yn ystod y dosbarth
- ar lafar
- ymateb i'r ffordd gwnaethoch chi ymateb i gwestiwn
- grŵp bach / dosbarth cyfan
- unigol
- rhan o sgwrs
- ar aseiniad Turnitin
- Fideo
- bron unrhyw beth!
- Ydych chi'n cael adborth digonol i gefnogi'ch dysgu?
- Ydy'r adborth yn cyfiawnhau'r marc a gawsoch (pan fo hynny'n briodol)?
- A yw'n adeiladol? Gan roi awgrymiadau ar gyfer gwella eich gwaith?
- A oes awgrymiadau ar gyfer ffyrdd eraill o gael cymorth?
- A yw'n cyfeirio at y meini prawf / y cynllun marcio / yr aseiniad / eich gwaith blaenorol?
- A yw'n onest? A yw'n benodol i chi?
- A gaiff camau dilynol eu cymryd mewn perthynas ag ef?
Yn barod i enwebu?
Cyn i chi ddechrau eich enwebiad, cofiwch wirio ein rhestr o enillwyr blaenorol yn gyntaf - nid yw staff yn gymwys i ennill yr un wobr o fewn tair blynedd.