Am wneud y gorau yn dy astudiaethau?
Ymuna mewn wythnos o weithdai, a dysga sut i ddatgloi di botensial.

Dydd Mawrth 27ain Ionawr 2026
Sgiliau Darllen
Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno strategaethau gwahanol i wella'ch geirfa a'ch dealltwriaeth wrth ddarllen. Byddwch yn dysgu ffyrdd o wella eich darllen yn Saesneg, gan ddefnyddio ffynonellau academaidd a thestun newyddion.
Campws Bae
Dydd Mawrth 27ain Ionawr 2026 (Sesiwn 1 o 5)
14:00 - 15:00
sgiliau astudio, cymorth iaith Saesneg, darllen academaidd
Cofrestrwch i'r cwrs 5 wythnos hwn
Dydd Iau 29ain Ionawr 2026
Mynegiadau Mathemategol
Mae mynegiadau mathemategol yn rhifau, yn weithredwyr ac yn symbolau sydd wedi'u grwpio i 'fynegi' neu 'ddangos' gwerth. Unwaith y byddwch yn deall egwyddorion trin mynegiadau, gallwch ffactoreiddio a symleiddio mynegiadau. Mae'r gweithdy hwn yn archwilio casglu termau tebyg, ehangu cromfachau, ffactoreiddio mynegiadau cwadratig a thrin ffracsiynau algebraidd.
Campws Bae
Dydd Iau 29ain Ionawr 2026
12:00 - 13:00
Ynganu
Dyma gwrs ar gyfer myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Bydd yn rhoi cyfle i chi ymarfer seiniau gwahanol a phwysleisiau amrywiol mewn brawddegau yn Saesneg er mwyn eich galluogi i siarad yn fwy rhugl a naturiol a chael eich deall yn well.
Bay Campus
Dydd Iau 29ain Ionawr 2026 (Sesiwn 1 o 8)
12:00 - 13:00
ynganu Saesneg, seiniau Saesneg, pwyslais mewn brawddeg
Cofrestrwch i'r cwrs 8 wythnos hwn
Logarithmau a Mynegrifau
Mae gwybodaeth am fynegeion yn hanfodol er mwyn deall y rhan fwyaf o brosesau algebraidd. Yn y gweithdy hwn, byddwn yn dysgu am raddau a rheolau ar gyfer eu trin. Ar ben hynny, byddwn yn archwilio logarithmau a mynegrifau.
Campws Bae
Dydd Iau 29ain Ionawr 2026
13:00 - 14:00
Ysgrifennu Academaidd Saesneg
Mae’r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Byddwch yn dysgu ac yn datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd Saesneg. Mae'r cwrs yn trafod diben cyffredinol a strwythur ysgrifennu academaidd, ac elfennau gramadeg a geirfa academaidd i wella'ch ysgrifennu.
Campws Bae
Dydd Iau 29ain Ionawr 2026 (Sesiwn 1 o 10)
14:00 - 15:00
ysgrifennu, gramadeg
Cofrestrwch i'r cwrs 10 wythnos hwn


