Angen help i ddatblygu eich sgiliau Microsoft, neu mewn penbleth dros Python?
Mae’r gweithdai gennym i helpu chi feistroli meddalwedd academaidd.

Dydd Mawrth 3ydd Chwefror 2026
Datrys Hafaliadau Cwadratig
Mae hafaliad cwadratig yn hafaliad polynomaidd gradd 2. Yr enw ar gyfer graff siâp 'U' o gwadratig yw parabola. Mae gan hafaliad cwadratig ddau ateb. Naill ai dau ateb go iawn gwahanol, un ateb go iawn dwbl neu ddau ddatrysiad dychmygol. Mae nifer o ddulliau y gallwn eu defnyddio i ddatrys hafaliad cwadratig sydd yn cael eu harchwilio yn y gweithdy hwn.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mawrth 3ydd Chwefror 2026
14:00 - 15:00
Integreiddio Sylfaenol
Yn y gweithdy hwn byddwn yn adolygu ac yn ymarfer integreiddio sylfaenol, Theorem Sylfaenol Calcwlws a'r Integrynnau safonol mwyaf cyffredin.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mawrth 3ydd Chwefror 2026
15:00 - 16:00
Ymgyfarwyddo â Python
Mae'r gweithdy hwn yn ganllaw i ddechreuwyr i Python. Byddwn yn ymdrin â chysyniadau sylfaenol (amrywiolyn, mathau, rhestrau), ac yna'n symud ymlaen gan ddefnyddio swyddogaethau, dulliau a phecynnau i wella eich sgiliau ysgrifennu côd. Ar y diwedd byddwn yn ymdrin â NumPy, sef pecyn gwyddor data sylfaenol yn Python.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mawrth 3ydd Chwefror 2026
16:00 - 17:00
Dydd Mercher 4ydd Chwefror 2026
Ysgrifennu Academaidd Saesneg
Mae’r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Byddwch yn dysgu ac yn datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd Saesneg. Mae'r cwrs yn trafod diben cyffredinol a strwythur ysgrifennu academaidd, ac elfennau gramadeg a geirfa academaidd i wella'ch ysgrifennu.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mercher 4ydd Chwefror 2026 (Seswn 2 o 10)
13:00 - 14:00
ysgrifennu, gramadeg
Cofrestrwch i'r cwrs 10 wythnos hwn
Dydd Gwener 6ed Chwefor 2026
Cyflwyniad i’r Porth
Mae Porth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn drysordy o adnoddau defnyddiol i fyfyrwyr. Yn ogystal â gwybodaeth bynciol, mae nifer o ddeunyddiau iaith yn y Porth all fod yn ddefnyddiol iawn i fyfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y gweithdy hwn yn cynnig taith tywys o amgylch cynnwys y Porth, ac yn cynnig cyngor ar sut i wneud y defnydd orau ohoni.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Gwener 6ed Chwefror 2026
12:00 - 13:00


