Dewch i’r gweithdai hyn i ddysgu mwy am bob agwedd o ysgrifennu academaidd.

O strwythur, i iaith a naws, mae’r gefnogaeth ar gael i chi yma!

pencils

Pob sesiwn

Singleton Campus

Bae

Online

Dydd Llun 9fed Chwefror 2026

Greu Cyflwyniad a Chasgliadau

Byddwch yn dysgu sut i ddechrau a gorffen eich aseiniad yn dda, gan gynnwys technegau i wella effaith eich cyflwyniadau a'ch casgliadau academaidd.

  Ar-lein trwy Zoom
  Dydd Llun 9fed Chwefror 2026
 09:00 - 10:00

 ysgrifennu academaidd, cyflwyniadau, casgliadau

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
ysgwyd dwylo

Golygu a Phrawf-ddarllen

Mae aseiniadau da’n datblygu o sawl drafft, felly mae golygu a phrawf-ddarllen yn hanfodol i ysgrifennu academaidd da. Mae'r gweithdy hwn yn canolbwyntio ar yr offer a'r technegau angenrheidiol i sicrhau bod eich ysgrifennu'n glir a heb wallau.

  Ar-lein trwy Zoom
  Dydd Llun 9fed Chwefror 2026
  11:00 - 12:00

 ysgrifennu academaidd, golygu, prawf-ddarllen, drafftio

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
person yn darllen ei waith

Ysgrifennu Adroddiadau

Mae'r gweithdy hwn yn trafod hanfodion ysgrifennu adroddiadau, gan gynnwys y strwythur, y diben a chyflwyno gwybodaeth yn effeithiol.

 Ar-lein trwy Zoom
 Dydd Llun 9fed Chwefror 2026
 13:00 - 14:00

 hanfodion ysgrifennu adroddiadau

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
myfyriwr yn ysgrifennu adroddiad

Dydd Mawrth 10fed Chwefror 2026

Teitlau, Cynllunio a Strwythur

Bydd y gweithdy hwn yn eich addysgu sut i ddehongli teitlau cwestiynau'n gywir a defnyddio'r wybodaeth hon i gynllunio a strwythuro aseiniad llwyddiannus.

  Ar-lein trwy Zoom
  Dydd Mawrth 10fed Chwefror 2026
  09:00 - 10:00

  ysgrifennu academaidd, teitlau traethodau, cynllunio

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
gwneud nodiadau

Dod yn Ysgrifennwr Ymchwil

Hwb i'ch taith i fod yn ysgrifennwr ymchwil hyderus ac effeithiol. Datblygwch arferion ysgrifennu da ac archwilio'r offer sy'n hollbwysig i drawsnewid eich proses ysgrifennu, gan ddarganfod elfennau allweddol arddull academaidd effeithiol.

 Ar-lein trwy Zoom
 Dydd Mawrth 10fed Chwefror 2026
 10:00 - 12:00

 traethawd ymchwil PhD, rhwystr ysgrifennu, dechrau ysgrifennu

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn 1 o 6
desg myfyriwr ymchwil

Ysgrifennu Rhugl

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o sut i gyflwyno gwybodaeth a dadleuon mewn ffordd sy'n rhesymegol, yn ddiddorol ac yn hawdd ei darllen.

 Ar-lein trwy Zoom
 Dydd Mawrth 10fed Chwefror 2026
 11:00 - 12:00

  ysgrifennu academaidd, llunio paragraffau, arddull academaidd

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
nant sy'n llifo

Cyflwyniad i Fatricsau

Mae'r gweithdy hwn yn archwilio matricsau a'u trefn, ychwanegu a thynnu matricsau, lluosi matrics â sgalar, hunaniaeth a matrics sero, cyfreithiau ar gyfer gweithrediadau sylfaenol matricsau, a throsi matrics.

 Ar-lein trwy Zoom
  Dydd Mawrth 10fed Chwefror 2026
  12:00 - 13:00

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Matricsau

Cymryd Nodiadau Effeithiol

Bydd y sesiwn hwn yn dysgu strategaethau effeithiol ar gyfer cymryd nodiadau wrth ddarllen, ac mewn darlithoedd. Cofia bopeth, gwaria llai o amser yn adolygu, a phaid colli pwynt allweddol byth eto!

 Ar-lein trwy Zoom
  Dydd Mawrth 10fed Chwefror 2026
 13:00 - 14:00

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Nodiadau Ysgrifennu Myfyrwyr

Integreiddio drwy Amnewid

Yn y gweithdy hwn byddwn yn adolygu ac yn ymarfer integreiddio drwy amnewid.

 Campws Bae
  Dydd Mawrth 10fed Chwefror 2026
  15:00 - 16:00

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Mynedfa'r gymhwysion

Dod i adnabod LaTeX

Mae'r gweithdy hwn yn ganllaw i ddechreuwyr i ysgrifennu dogfennau yn LaTeX gan ddefnyddio Overleaf. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol nac unrhyw iaith gyfrifiadura arall ar gyfer y gweithdy hwn, bydd yn ymdrin â hanfodion LaTeX gan gynnwys strwythur y ddogfen, testun cysodi, tablau, ffigurau, hafaliadau a mewnosod cyfeiriadau.

  Ar-lein trwy Zoom
  Dydd Mawrth 10fed Chwefror 2026
  16:00 - 17:00

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Meddalwedd LaTeX ar gyfrifiadur

Dydd Mercher 11eg Chwefror 2026

Ysgrifennu Academaidd Saesneg

Mae’r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Byddwch yn dysgu ac yn datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd Saesneg. Mae'r cwrs yn trafod diben cyffredinol a strwythur ysgrifennu academaidd, ac elfennau gramadeg a geirfa academaidd i wella'ch ysgrifennu.

Ar-lein trwy Zoom
Dydd Mercher 11eg Chwefror 2026 (Seswn 3 o 10)
13:00 - 14:00

ysgrifennu, gramadeg

Cofrestrwch i'r cwrs 10 wythnos hwn
myfyriwr yn ysgrifennu

AI a Sgiliau Academaidd

Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno Deallusrwydd Artiffisial fel technoleg ddatblygol ac yn esbonio sut y gellir ei defnyddio i wella eich astudiaethau academaidd mewn ffordd effeithiol a gonest. 

  Ar-lein trwy Zoom
  Dydd Mercher 11eg Chwefror 2026
 13:00 - 15:00

 sgiliau astudio, darllen, ysgrifennu, uniondeb academaidd

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Cofleidio technoleg

Dydd Iau 12fed Chwefror 2026

Ymdrin â Rhestrau Darllen

Yn y gweithdy hwn byddwch yn dysgu dulliau i'ch gwneud chi'n ddarllenydd mwy effeithiol ac effeithlon, gan eich galluogi i ddysgu mwy, arbed amser a gwella cwmpas a dyfnder eich gwaith ysgrifenedig.

  Ar-lein trwy Zoom
  Dydd Iau 12fed Chwefror 2026
 09:00 - 10:00

  sgiliau darllen beirniadol, brasddarllen/sganio cymryd nodiadau

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
myfyriwr sy'n astudio

Ysgrifennu’n Feirniadol

Archwiliwch y gwahaniaeth rhwng ysgrifennu disgrifiadol ac ysgrifennu beirniadol, beth mae eich darlithwyr yn ei olygu wrth ofyn i chi fod yn 'fwy beirniadol' neu'n 'llai disgrifiadol' a sut i gyfleu eich meddwl yn feirniadol drwy ysgrifennu.

 Ar lein trwy Zoom
  Dydd Iau 12fed Chwefror 2026
 11:00 - 12:00

 ysgrifennu beirniadol, dadansoddi beirniadol, dadleuon

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
myfyriwr yn edrych ar gyfres o gwestiynau

Arddull a Chywair Academaidd

Byddwch yn meistroli confensiynau arddull academaidd drwy ganllawiau syml i helpu'ch ysgrifennu i fodloni disgwyliadau'r Brifysgol.

 Ar-lein trwy Zoom
 Dydd Iau 12fed Chwefror 2026
 13:00 - 14:00

 ysgrifennu academaidd, arddull academaidd, golygu

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Detholiad o barau o jîns mewn gwahanol arlliwiau

Dydd Gwener 13eg Chwefror 2026

Ysgrifennu Myfyriol

Byddwch yn darganfod diben ac arddull ysgrifennu myfyriol a sut i ddefnyddio'r modelau myfyriol gwahanol i wneud eich ysgrifennu'n fwy cynnil a beirniadol.

 Ar-lein trwy Zoom
  Dydd Gwener 13eg Chwefror 2026
 09:00 - 10:00

 ysgrifennu academaidd, ysgrifennu myfyriol

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
person yn ysgrifennu dyddiadur

Sut i ysgrifennu’n ffurfiol

Dysgwch sut i feithrin eich llais academaidd, ac ysgrifennu yn yr arddull ffurfiol sy’n nodweddiadol o waith academaidd.

  Ar-lein trwy Zoom
  Dydd Gwener 13eg Chwefror 2026
 11:00 - 12:00

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Ysgrifennu Myfyrwyr

Ysgrifennu o Amryw Ffynonellau

Mae defnyddio ffynonellau i roi tystiolaeth o ffeithiau ac ategu eich dadleuon yn rhan hanfodol o ysgrifennu academaidd da. Bydd y gweithdy hwn yn eich helpu i wneud y gorau o'ch ffynonellau ac i'w syntheseiddio (cyfuno) i greu paragraffau effeithiol.

 Ar-lein trwy Zoom
  Dydd Gwener 13eg Chwefror 2026
 11:00 - 12:00

 aralleirio, dyfyniadau, cyfeirnodi

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Myfyriwr yn defnyddio llawer o ffynonellau