Dewch i’r gweithdai hyn i ddysgu mwy am bob agwedd o ysgrifennu academaidd.

O strwythur, i iaith a naws, mae’r gefnogaeth ar gael i chi yma!

pencils

Pob sesiwn

Singleton Campus

Bay Campus

Ar-lein

Dydd Llun 9fed Chwefror 2026

Fformatio yn Word

Bydd dysgu defnyddio ac addasu arddulliau fformatio yn Word yn rhoi golwg broffesiynol i’ch gwaith gan wneud y ddogfen yn hygyrch a helpu i ddod o hyd i gynnwys. Byddwch hefyd yn gallu creu a diweddaru tudalen gynnwys drwy glicio ar fotwm.

 Campws Bae
 Dydd Llun 9fed Chwefror 2026
10:00 - 12:00

 sgiliau digidol, Word, arddulliau fformatio, tudalen gynnwys

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
dogfen wedi'i fformatio ar gyfrifiadur

Dydd Mawrth 10fed Chwefror 2026

Ysgrifennu Adroddiadau

Mae'r gweithdy hwn yn trafod hanfodion ysgrifennu adroddiadau, gan gynnwys y strwythur, y diben a chyflwyno gwybodaeth yn effeithiol.

 Campws Bae
 Dydd Mawrth 10fed Chwefror 2026
 10:00 - 11:00

 hanfodion ysgrifennu adroddiadau

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
myfyriwr yn ysgrifennu adroddiad

Traethodau: cam wrth gam

Magu hyder wrth ysgrifennu'n academaidd. Mae'r cwrs ymarferol hwn a gynhelir dros gyfnod o 6 wythnos wedi'i ddylunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau meistroli traethodau academaidd. Dysgwch am bob cam o'r broses ysgrifennu - o ddeall eich aseiniad i gyflwyno darn o waith caboledig. Datblygwch eich traethodau eich hun mewn amgylchedd cefnogol ar ffurf gweithdy.

Campws Bae
Dydd Mawrth 10fed Chwefror 2026 (Sesiwn 1 o 6)
12:00 - 13:30

Cofrestrwch i'r cwrs 6 wythnos hwn
Myfyriwr yn astudio

Sgiliau Darllen

Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno strategaethau gwahanol i wella'ch geirfa a'ch dealltwriaeth wrth ddarllen. Byddwch yn dysgu ffyrdd o wella eich darllen yn Saesneg, gan ddefnyddio ffynonellau academaidd a thestun newyddion.

  Campws Bae
  Dydd Mawrth 10fed Chwefror 2026 (Sesiwn 3 o 5)
 14:00 - 15:00

 sgiliau astudio, cymorth iaith Saesneg, darllen academaidd

Cofrestrwch i'r cwrs 5 wythnos hwn
llyfrau

Dydd Iau 12fed Chwefror 2026

Greu Cyflwyniad a Chasgliadau

Byddwch yn dysgu sut i ddechrau a gorffen eich aseiniad yn dda, gan gynnwys technegau i wella effaith eich cyflwyniadau a'ch casgliadau academaidd.

  Campws Bae
  Dydd Iau 12fed Chwefror 2026
  10:00 - 11:00

 ysgrifennu academaidd, cyflwyniadau, casgliadau

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
ysgwyd dwylo

Dod i adnabod LaTeX

Mae'r gweithdy hwn yn ganllaw i ddechreuwyr i ysgrifennu dogfennau yn LaTeX gan ddefnyddio Overleaf. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol nac unrhyw iaith gyfrifiadura arall ar gyfer y gweithdy hwn, bydd yn ymdrin â hanfodion LaTeX gan gynnwys strwythur y ddogfen, testun cysodi, tablau, ffigurau, hafaliadau a mewnosod cyfeiriadau.

  Campws Bae
  Dydd Iau 12fed Chwefror 2026
  11:00 - 12:00

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Meddalwedd LaTeX ar gyfrifiadur

Ynganu

Dyma gwrs ar gyfer myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Bydd yn rhoi cyfle i chi ymarfer seiniau gwahanol a phwysleisiau amrywiol mewn brawddegau yn Saesneg er mwyn eich galluogi i siarad yn fwy rhugl a naturiol a chael eich deall yn well.

 Bay Campus
 Dydd Iau 12fed Chwefror 2026 (Sesiwn 3 o 8)
12:00 - 13:00

 ynganu Saesneg, seiniau Saesneg, pwyslais mewn brawddeg

Cofrestrwch i'r cwrs 8 wythnos hwn
myfyrwyr yn sgwrsio

Ffracsiynau Rhannol

Mae ychwanegu mynegiadau rhesymegol a'u symleiddio yn gymharol hawdd. Fodd bynnag, mae mynd y ffordd arall, gan fynegi swyddogaeth resymegol unigol fel y swm o ddau neu fwy o'r rhai symlach yn llawer anoddach. Mae'r gweithdy hwn yn ein haddysgu sut i ymdrin â ffracsiynau rhannol ac enwaduron â ffactorau cwadratig ailadroddus.

  Campws Bae
  Dydd Iau 12fed Chwefror 2026
  12:00 - 13:00

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Pitsa

Datrys Hafaliadau Cwadratig

Mae hafaliad cwadratig yn hafaliad polynomaidd gradd 2. Yr enw ar gyfer graff siâp 'U' o gwadratig yw parabola. Mae gan hafaliad cwadratig ddau ateb. Naill ai dau ateb go iawn gwahanol, un ateb go iawn dwbl neu ddau ddatrysiad dychmygol. Mae nifer o ddulliau y gallwn eu defnyddio i ddatrys hafaliad cwadratig sydd yn cael eu harchwilio yn y gweithdy hwn.

  Campws Bae
  Dydd Iau 12fed Chwefror 2026
  13:00 - 14:00

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Hafaliadau ar ddarn o bapur

Golygu a Phrawf-ddarllen

Mae aseiniadau da’n datblygu o sawl drafft, felly mae golygu a phrawf-ddarllen yn hanfodol i ysgrifennu academaidd da. Mae'r gweithdy hwn yn canolbwyntio ar yr offer a'r technegau angenrheidiol i sicrhau bod eich ysgrifennu'n glir a heb wallau.

  Campws Bae
  Dydd Iau 12fed Chwefror 2026
  13:00 - 14:00

 ysgrifennu academaidd, golygu, prawf-ddarllen, drafftio

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
person yn darllen ei waith

Ysgrifennu Academaidd Saesneg

Mae’r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Byddwch yn dysgu ac yn datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd Saesneg. Mae'r cwrs yn trafod diben cyffredinol a strwythur ysgrifennu academaidd, ac elfennau gramadeg a geirfa academaidd i wella'ch ysgrifennu.

Campws Bae
Dydd Iau 12fed Chwefror 2026 (Sesiwn 3 o 10)
14:00 - 15:00

ysgrifennu, gramadeg

Cofrestrwch i'r cwrs 10 wythnos hwn
myfyriwr yn ysgrifennu