O sut i ddelio â phryder, i ddal sylw eich cynulleidfa
dyma weithdai i helpu chi wella’ch sgiliau siarad yn gyhoeddus

Dydd Llun 23ain Chwefror 2026
Dylunio posteri yn PowerPoint
Hoffech chi ddylunio posteri o safon broffesiynol i ennyn diddordeb eich cynulleidfa? Mae'r gweithdy hwn yn dangos i chi sut i greu posteri academaidd effeithiol, gan sicrhau bod yr wybodaeth yn ddarllenadwy o bellter priodol.
Campws Bae
Dydd Llun 23ain Chwefror 2026
10:00 - 12:00
sgiliau digidol, PowerPoint, dylunio posteri
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Dydd Mawrth 24ain Chwefror 2026
Traethodau: cam wrth gam
Magu hyder wrth ysgrifennu'n academaidd. Mae'r cwrs ymarferol hwn a gynhelir dros gyfnod o 6 wythnos wedi'i ddylunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau meistroli traethodau academaidd. Dysgwch am bob cam o'r broses ysgrifennu - o ddeall eich aseiniad i gyflwyno darn o waith caboledig. Datblygwch eich traethodau eich hun mewn amgylchedd cefnogol ar ffurf gweithdy.
Campws Bae
Dydd Mawrth 24ain Chwefror 2026 (Sesiwn 3 o 6)
12:00 - 13:30
Sgiliau Darllen
Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno strategaethau gwahanol i wella'ch geirfa a'ch dealltwriaeth wrth ddarllen. Byddwch yn dysgu ffyrdd o wella eich darllen yn Saesneg, gan ddefnyddio ffynonellau academaidd a thestun newyddion.
Campws Bae
Dydd Mawrth 24ain Chwefror 2026 (Sesiwn 5 o 5)
14:00 - 15:00
sgiliau astudio, cymorth iaith Saesneg, darllen academaidd
Cofrestrwch i'r cwrs 5 wythnos hwn
Dydd Iau 26ain Chwefror 2026
Rheolau differu
Bydd y gweithdy hwn yn archwilio differu o'r egwyddorion cyntaf, i'ch helpu i ddeall sut i ddefnyddio'r rheolau cyniferydd, cadwyn a lluoswm. Mae hefyd yn mynd i'r afael â gwerthoedd uchaf ac isaf ffwythiannau.
Campws Bae
Dydd Iau 26ain Chwefror 2026
12:00 - 13:00
Ynganu
Dyma gwrs ar gyfer myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Bydd yn rhoi cyfle i chi ymarfer seiniau gwahanol a phwysleisiau amrywiol mewn brawddegau yn Saesneg er mwyn eich galluogi i siarad yn fwy rhugl a naturiol a chael eich deall yn well.
Bay Campus
Dydd Iau 26ain Chwefror 2026 (Sesiwn 5 o 8)
12:00 - 13:00
ynganu Saesneg, seiniau Saesneg, pwyslais mewn brawddeg
Cofrestrwch i'r cwrs 8 wythnos hwn
Integreiddio Sylfaenol
Yn y gweithdy hwn byddwn yn adolygu ac yn ymarfer integreiddio sylfaenol, Theorem Sylfaenol Calcwlws a'r Integrynnau safonol mwyaf cyffredin.
Campws Bae
Dydd Iau 26ain Chwefror 2026
13:00 - 14:00
Ysgrifennu Academaidd Saesneg
Mae’r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Byddwch yn dysgu ac yn datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd Saesneg. Mae'r cwrs yn trafod diben cyffredinol a strwythur ysgrifennu academaidd, ac elfennau gramadeg a geirfa academaidd i wella'ch ysgrifennu.
Campws Bae
Dydd Iau 26ain Chwefror 2026 (Sesiwn 5 o 10)
14:00 - 15:00
ysgrifennu, gramadeg
Cofrestrwch i'r cwrs 10 wythnos hwn


