Gweithio ar dy draethawd hir? O gynllunio’r syniad, i ysgrifennu adolygiad leny
Bydd y sesiynau hyn yn helpu i godi eich marciau, a gostwng straen traethodau hi

Dydd Llun 16eg Mawrth 2026
Fformatio traethawd estynedig
Mae gwaith wedi'i gyflwyno'n dda yn ennill graddau uwch. Bydd y gweithdy ymarferol hwn yn addysgu’r holl awgrymiadau ac argymhellion i chi er mwyn gwneud y gorau o Microsoft Word. Byddwch yn dysgu sut i fodloni safonau academaidd a rhoi golwg broffesiynol ar eich gwaith.
Campws Bae
Dydd Llun 16eg Mawrth 2026
10:00 - 12:00
gwaith wedi'i gyflwyno'n dda
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Dydd Mawrth 17fed Mawrth 2026
Cynllunio traethawd estynedig
Byddwch yn dysgu dull syml i helpu i ffocysu eich meddwl a llunio cynllun effeithiol y gellir ei gyflawni ar gyfer eich traethawd estynedig.
Campws Bae
Dydd Mawrth 17fed Mawrth 2026
10:00 - 12:00
traethodau estynedig, cynllunio, rheoli amser
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Llunio adolygiad llenyddiaeth
Byddwch yn dysgu am nodweddion arbennig yr adolygiad llenyddiaeth, a sut i wneud ymchwil ar ei gyfer, sut i'w gynllunio a'i ysgrifennu!
Campws Bae
Dydd Mawrth 17fed Mawrth 2026
12:00 - 13:00
traethodau estynedig, synthesis, themâu, ysgrifennu paragraffau
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Traethodau: cam wrth gam
Magu hyder wrth ysgrifennu'n academaidd. Mae'r cwrs ymarferol hwn a gynhelir dros gyfnod o 6 wythnos wedi'i ddylunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau meistroli traethodau academaidd. Dysgwch am bob cam o'r broses ysgrifennu - o ddeall eich aseiniad i gyflwyno darn o waith caboledig. Datblygwch eich traethodau eich hun mewn amgylchedd cefnogol ar ffurf gweithdy.
Campws Bae
Dydd Mawrth 17fed Mawrth 2026 (Sesiwn 6 o 6)
12:00 - 13:30
Crynodebau a chyflwyniadau
Byddwch yn dysgu sut i gynllunio a strwythuro crynodebau a chyflwyniadau effeithiol ar gyfer eich traethodau estynedig gan ddefnyddio ein fframweithiau syml.
Campws Bae
Dedd Mawrth 17fed Mawrth 2026
14:00 - 15:00
traethodau estynedig, ysgrifennu cyflwyniadau, crynodebau
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Ysgrifennu eich methodoleg
Byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu adran fethodoleg eich traethawd estynedig. Byddwn yn trafod yr hyn mae angen ei gynnwys yn y fethodoleg, a'r arddull gywir i'w hysgrifennu.
Campws Bae
Dydd Mawrth 17fed Mawrth 2026
15:00 - 16:00
traethodau estynedig, methodoleg
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Dydd Iau 19eg Mawrth 2026
Canlyniadau a thrafodaethau
Byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu adrannau canlyniadau, canfyddiadau a thrafodaeth eich traethawd estynedig. Byddwn yn trafod yr hyn i'w gynnwys, sut i strwythuro'r adrannau hyn a sut i'w cyflwyno'n gywir mewn ffordd sy'n ennyn diddordeb.
Campws Bae
Dydd Iau 19eg Mawrth 2026
10:00 - 11:00
traethodau estynedig, canlyniadau, canfyddiadau, trafodaethau
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Siartiau a graffiau yn Excel
Dysgwch arddangos eich canfyddiadau gan ddefnyddio'r siart priodol a diwygio elfennau'r siart i olygu'r dyluniad a'r cynllun. Bydd y gweithdy hwn hefyd yn eich addysgu sut i ddefnyddio graddfa logarithmig a bariau gwall a sut i allforio siartiau i ddogfennau eraill.
Campws Bae
Dydd Iau 19eg Mawrth 2026
10:00 - 12:00
sgiliau digidol, Excel, siartiau
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Ynganu
Dyma gwrs ar gyfer myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Bydd yn rhoi cyfle i chi ymarfer seiniau gwahanol a phwysleisiau amrywiol mewn brawddegau yn Saesneg er mwyn eich galluogi i siarad yn fwy rhugl a naturiol a chael eich deall yn well.
Bay Campus
Dydd Iau 19eg Mawrth 2026 (Sesiwn 8 o 8)
12:00 - 13:00
ynganu Saesneg, seiniau Saesneg, pwyslais mewn brawddeg
Cofrestrwch i'r cwrs 8 wythnos hwn
Profion Modelau Ystadegol yn R
Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno profion dadansoddi ystadegol mwy cymhleth ond cyffredin: dadansoddiad atchweliad. Gan weithio yn y rhaglen R, bydd myfyrwyr yn cael setiau data ac yn gweithio drwy'r dadansoddiad ystadegol a'r dehongliad priodol (gan gynnwys atchweliad llinellol ac atchweliad model cymysg).
Campws Bae
Dydd Iau 19eg Mawrth 2026
13:00 - 14:00
Ysgrifennu Adolygiadau llenydd
Trafodwch y prif gamau y bydd angen i chi eu cymryd wrth baratoi ac ysgrifennu adolygiad llenyddiaeth systematig. Rhoddir pwyslais ar strwythur, iaith a chyfathrebu eich ymchwil yn effeithiol.
Campws Bae
Dydd Iau 19eg Mawrth 2026
13:00 - 14:00
Traethodau hir, Adolygiad llenyddiaeth, ymchwil
Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Delweddu Data
Bydd y gweithdy hwn yn canolbwyntio ar ddelweddu data, bydd myfyrwyr yn gweithio drwy'r ffordd orau o ddelweddu canlyniadau dadansoddi ystadegol mewn ffordd ystyrlon.
Campws Bae
Dydd Iau 19eg Mawrth 2026
14:00 - 15:00
Ysgrifennu Academaidd Saesneg
Mae’r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Byddwch yn dysgu ac yn datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd Saesneg. Mae'r cwrs yn trafod diben cyffredinol a strwythur ysgrifennu academaidd, ac elfennau gramadeg a geirfa academaidd i wella'ch ysgrifennu.
Campws Bae
Dydd Iau 19eg Mawrth 2026 (Sesiwn 8 o 10)
14:00 - 15:00
ysgrifennu, gramadeg
Cofrestrwch i'r cwrs 10 wythnos hwn
Gweler holl weithdai'r wythnos hon


