Bydd y Gwasanaeth Shuttle Parcio a Theithio a weithredir gan South Wales Transport, sy’n cysylltu Parcio a Theithio Ffordd Fabian a Champws y Bae, yn rhedeg fel arfer (bob 15 munud) ac nid yw wedi’i effeithio gan y gweithredu diwydiannol. Gallwch weld yr amserlen yma: U1 Bay Campus Park & Ride
Bydd gwasanaeth ychwanegol Parcio a Theithio Ffordd Fabian ar gael ar ddiwrnodau streic yn unig. Mae hwn yn ymyrraeth dros dro i gefnogi myfyrwyr yn ystod y gweithredu diwydiannol ac yn rhedeg o Barcio a Theithio Ffordd Fabian i Gampws Singleton. Gallwch weld yr amserlen yma: U2 Singleton Campus Temporary Park & Ride Timetable (Strike Days Only)
Mae gwybodaeth barcio i fyfyrwyr ar wefan y Brifysgol.