Isod ceir gwybodaeth ddefnyddiol am y gwasanaethau y gallwch eu defnyddio i deithio i’r campws yn ystod cyfnod yr arholiadau ym mis Ionawr. Mae hyn yn cynnwys:

  • Gwybodaeth am wasanaethau First Bus, y gallwch hefyd ddod o hyd iddi ar-lein yma.
  • Gwybodaeth am wasanaethau Adventure Travel / Traws Cymru, y gallwch hefyd ddod o hyd iddi ar-lein yma.
  • Gwybodaeth am January Exam Buses 2026 rydym yn eu darparu ar ddiwrnodau prysur, a weithredir gan South Wales Transport.
  • Bydd y gwasanaeth Park and Ride – bws gwennol U1 yn parhau i redeg fel arfer.

Rydym yn argymell eich bod yn cynllunio’ch taith yn ofalus, gan ganiatáu digon o amser i gyrraedd lleoliad eich arholiad.

Arholiadau Bore - Teithio i Gampws Singleton

Mae arholiadau’n dechrau am 09:30, ac rydym yn eich annog i fod ar y campws ymhell cyn yr amser dechrau.

Arholiadau Prynhawn - Teithio i Gampws Singleton

Mae arholiadau’n dechrau am 14:00, ac rydym yn eich annog i fod ar y campws ymhell cyn yr amser dechrau.

Arholiadau Bore – Teithio i Gampws y Bae

Mae arholiadau’n dechrau am 09:30, ac rydym yn eich annog i gyrraedd y campws ymhell cyn yr amser dechrau.

Arholiadau Prynhawn – Teithio i Gampws y Bae

Mae arholiadau’n dechrau am 14:00, ac rydym yn eich annog i gyrraedd y campws ymhell cyn yr amser dechrau.