Dewch o hyd i'r holl wybodaeth angenrheidiol am eich asesiadau, eich deilliannau a'ch canlyniadau yn yr un lle, gan ei gwneud hi'n haws i chi ddod o hyd i'r arweiniad a'r cymorth y mae eu hangen arnoch chi ar bob cam o'ch taith academaidd.
Yma, gallwch chi ddysgu sut i ddeall eich canlyniadau, archwilio amserlen y canlyniadau a dyddiadau allweddol a dod o hyd i arweiniad clir ar sut i gael mynediad at eich canlyniadau pan gânt eu cyhoeddi. Byddwch chi hefyd yn dod o hyd i wybodaeth bellach am eich camau nesaf, gwasanaethau cymorth a phrosesau pwysig sy'n gysylltiedig â'ch cynnydd academaidd.
P'un a ydych chi'n paratoi ar gyfer diwrnod canlyniadau neu'n adolygu eich deilliannau, mae'r dudalen hon yma i'ch helpu chi i deimlo'n wybodus, yn hyderus ac wedi'ch cefnogi.