Mae cyfweliad Camymddygiad Academaidd yn gyfarfod lle gofynnir cwestiynau mwy uniongyrchol i chi am eich gwaith a sut y gwnaethoch gynllunio, ymchwilio i’r asesiad a’i gwblhau.
Byddwch yn cael hysbysiad o ddyddiad ac amser y cyfweliad, fel arfer gyda rhybudd o bum niwrnod gwaith. Gallwch naill ai ddod â drafftiau, nodiadau neu ddeunyddiau ategol eraill i ddangos sut y datblygwyd eich gwaith, neu gyflwyno'r dogfennau cyn y cyfweliad er mwyn i'r panel eu hadolygu ymlaen llaw. Gellir anfon y rhain at y Tîm Uniondeb Academaidd drwy: academicintegrity@abertawe.ac.uk.
Sylwer: Os na allwch fynd i'r cyfweliad am reswm dilys, dylech gysylltu â'r Tîm Uniondeb Academaidd cyn gynted â phosibl i drefnu'r cyfweliad ar adeg arall.
Bydd y cyfweliad fel arfer yn cael ei gynnal drwy Zoom, a bydd dau Swyddog Uniondeb Academaidd, neu'r academydd a gyfeiriodd yr achos ynghyd â Swyddog Uniondeb, yn bresennol fel arfer. Mae'n bosibl y caiff y cyfarfod ei recordio, a chymerir nodiadau a fydd yn rhan o'r Ffurflen Adroddiad Achos a ddarperir i chi ar ddiwedd y broses.
Gallwch ddod â rhywun gyda chi i’r cyfweliad. Gall hwn fod yn fyfyriwr arall o Brifysgol Abertawe, fel ffrind neu gyd-letywr, neu'n gynrychiolydd o Ganolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr.
Mae'n bwysig eich bod yn mynd i'r cyfweliad neu'n rhoi ymateb ysgrifenedig ymhen y terfyn amser a nodwyd. Os na fu unrhyw ymdrech i gysylltu â'r Tîm Uniondeb Academaidd, bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch eich achos ar sail y dystiolaeth sydd ar gael.