Os nad ydych chi'n gallu mynd i'r Arholiad Llafar ar y dyddiad a'r amser a bennir, efallai y bydd modd ei aildrefnu. Dylech gysylltu â'r aelod staff perthnasol cyn gynted â phosibl, oherwydd gall methu mynd i'r Arholiad Llafar arwain at benderfyniad yn cael ei wneud ar sail y dystiolaeth sydd ar gael. Gellir dod i gasgliadau'n ymwneud â methiant i fynd i'r arholiad llafar, a gall eich marciau neu eich canlyniadau dilyniant/dyfarniad gael eu cadw tan i chi ymgysylltu â'r broses.