Myfyrwyr Newydd a Gwybodaeth am Gyfrif TG Prifysgol Abertawe

Cyflwyniad

Mae angen i chi sefydlu Dilysu Amlffactor (MFA) er mwyn i'ch cyfrif fod yn ddiogel. Mae MFA yn eich galluogi i gadarnhau eich hunaniaeth drwy ddefnyddio gwybodaeth ddiogelwch neu ddulliau dilysu. Mae'n gam gofynnol wrth sefydlu a chynnal eich cyfrif.

Bydd sefydlu MFA er mwyn profi eich hunaniaeth hefyd yn eich galluogi i ailosod eich cyfrinair (os byddwch yn ei anghofio) neu'i newid drwy ddefnyddio'r Hunanwasanaeth Ailosod Cyfrinair (SSPR) ar unrhyw adeg heb fod angen cymorth pellach. Am ragor o wybodaeth am sut i sefydlu dilysu aml-ffactor cliciwch yma.

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch â'r Desg Wasanaeth Digidol.  Sylwer y bydd angen i chi ein ffonio ar 01792 604000 ar gyfer galwadau sy'n ymwneud â diogelwch y cyfrif, er mwyn inni allu cadarnhau eich hunaniaeth. 

Gwybodaeth bwysig

Gwybodaeth am Gyfrifon TG Myfyrwyr Presennol

Gallwch reoli eich dulliau MFA ar unrhyw adeg drwy fewngofnodi i   a dewis Secure My Account. Byddwch yn derbyn neges broc MFA.

Yna gallwch ddefnyddio'r opsiwn Add Method o dan eich gwybodaeth ddiogelwch a dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrîn. Hefyd gallwch ddewis dileu dull (er enghraifft, rhif ffôn nad ydych yn ei ddefnyddio mwyach) a newid eich opsiwn di-ofyn. Rydym yn argymell defnyddio naill ai opsiwn yr hysbysiad gan Microsoft Authenticator neu opsiwn yr alwad ffôn, gan fod y rhain yn eich galluogi i ddefnyddio gwasanaeth y Cyfrifiadur Personol â Mynediad o Bell.

A screenshot of a Security Info page. The Default sign-in method is Microsoft Authenticator - notification. A redacted phone number is also featured

Sylwer: os ydych yn bwriadu newid eich dyfais neu'ch rhif ffôn, sicrhewch eich bod wedi ychwanegu dull wrth gefn/dull eilaidd er mwyn i chi allu cael mynediad at eich cyfrif.

Beth sy’n digwydd i fy nghyfrif pan fyddaf yn gadael y Brifysgol. Dysgwch am yr hyn y bydd angen i chi ei wneud cyn i’ch cyfrif gau

Diogelwch Cyfrif