AR GYFER POB RHAGLEN A ADDYSGIR A PHOB RHAGLEN YMCHWIL

Gwybodaeth Bwysig 

Ni fwriedir i'r weithdrefn hon gael ei defnyddio i ystyried cwynion gan fyfyrwyr. Dylai myfyrwyr sydd am gwyno ddefnyddio Gweithdrefnau Cwynion y Brifysgol. Os yw ymgeiswyr am ofyn i farciau unigol gael eu gwirio, dylent  ddefnyddio'r weithdrefn Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd.

Mae’r gweithdrefnau hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Fwrdd Arholi.

Gall myfyrwyr gyflwyno apêl academaidd yn unol â Gweithdrefnau Apeliadau Academaidd y Brifysgol, yn seiliedig ar amgylchiadau iechyd neu amgylchiadau personol eithriadol eraill nad ydynt yn gysylltiedig â'r boicot marcio ac asesu. Nid yw apêl a gyflwynir ar sail sy'n gysylltiedig â'r boicot marcio ac asesu neu gymhwyso'r Rheoliadau Eithriadol yn unig yn debygol o fod yn llwyddiannus. 

Os ydych yn teimlo eich bod yn gymwys, bod gennych reswm dros apelio, ac eich bod o fewn y terfynau amser, bydd angen i chi gwblhau’r Ffurflen apêl academaidd .

Bydd angen cyflwyno’r Ffurflen Gais am Apêl, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r cais trwy e-bostio studentcases@swansea.ac.uk. Gan fod staff yn gweithio o bell ar hyn o bryd, ni allwn dderbyn ffurflenni apêl neu unrhyw ddogfennaeth/ohebiaeth drwy’r post.

Cynghorir myfyrwyr hefyd i ddarllen y ddogfen Apeliadau Academaidd Cwestiynau Cyffredin sy’n darparu rhagor o wybodaeth am ddyddiadau cau allweddol ar gyfer cyflwyno apeliadau a sut y penderfynir ar yr apeliadau.

Os oes gennych gwestiynau ar y weithdrefn neu’r rheoliadau, cysylltwch â’r Tîm Achosion Myfyrwyr, a fydd yn hapus i ateb ymholiadau sydd gennych, drwy e-bost: studentcases@abertawe.ac.uk.

Yn ogystal â hyn, mae Canolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr ar gael i gynorthwyo ac i gynghori myfyrwyr. I drefnu apwyntiad i weld rhywun yn Undeb y Myfyrwyr gallwch chi gysylltu â'r Ganolfan Gyngor drwy borth newydd i fyfyrwyr http://hello.swansea-union.co.uk/ lle gallwch godi tocyn a dewis y categori - Cyngor a Chymorth o'r gwymplen. 

Dyddiadau Ystyriaethau Arbennig

Er bod gan fyfyrwyr dri mis i gyflwyno apêl yn dilyn cyhoeddi canlyniadau asesiadau atodol mis Awst ar y fewnrwyd, os wyt ti’n fyfyriwr MBBCh sydd a am gyflwyno apêl mewn perthynas â pharhau â'th astudiaethau (er enghraifft, os wyt ti wedi cael dy dynnu'n ôl o'r Brifysgol ac rwyt ti am gyflwyno apêl am gael y cyfle i ail-wneud y lefel astudio) yn ystod Sesiwn Academaidd 26/27, bydd angen i ti gyflwyno dy apêl gerbron y Gwasanaethau Academaidd erbyn y dyddiadau a nodir isod gan fod yr addysgu i fod i ddechrau ar 1 Medi 2026:

Math o fyfyriwr Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno apêl
MBBCh (Meddygaeth i Raddedigion) blynyddoedd 1 a 2*      28 Awst 2026

* Gwybodaeth bwysig i fyfyrwyr Cydymaith Meddygol (blynyddoedd 1 a 2) yn unig:

Bydd canlyniadau terfynol eich arholiadau atodol yn cael eu cyhoeddi ar y fewnrwyd ar 28 Gorffennaf 2026, mae gennych fis o'r dyddiad hwn h.y.: tan 28 Awst 2026 i gyflwyno apêl academaidd. Mae'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yn gofyn i chi fod yn ymwybodol o'r cyfle asesu nesaf sydd ar gael ar gyfer yr asesiad yr effeithir arno. Er enghraifft, os byddwch yn cyflwyno apêl academaidd am drydydd ymgais, arnoch chi mae'r cyfrifoldeb i gyflwyno'ch Apêl Academaidd mewn pryd er mwyn sicrhau y gellir ystyried eich Apêl a bod penderfyniad yn cael ei roi i chi o leiaf 4 wythnos cyn dyddiad yr asesiad. Os yw apêl academaidd yn llwyddiannus bydd trydydd ymgais yn cael ei gymeradwyo ar gyfer y cyfle asesu nesaf.