Gwybodaeth Canlyniadau

Students walking together along a tree filled avenue

Gwybodaeth Bellach

Gwybodaeth Bellach

Isod fe welwch wybodaeth am ddyddiadau Asesu a Chynnydd allweddol, rheoliadau a pholisïau, gan gynnwys sut y gallwch gysylltu â'r Tîm Asesu a Chanlyniadau.

Os ydych yn chwilio am wybodaeth Graddio, fe welwch ddolen uniongyrchol isod lle gallwch gael yr holl wybodaeth am logi gynau, gweithgareddau ar y diwrnod, a phryd y byddwch yn derbyn eich tystysgrif.

Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, efallai y bydd gan eich canlyniad oblygiadau i'ch fisa. Darllenwch yr holl ganllawiau a ddarperir ar y ddolen berthnasol isod. Mae’r tudalennau Cyngor ar Fisa hefyd yn rhoi gwybodaeth am y Llwybr Graddedig, a sut i gysylltu â’r tîm Cyngor ar Fisa.

Cyhoeddiad Canlyniad yr Haf

Dyddiadau Cyhoeddi

Rhaglenni

Dydd Mawrth 18 Awst 2026
BSc Gwyddor Gofal Iechyd - Blwyddyn 3
   
Dydd Mercher 2 Medi 2026  
BSc Gwyddor Barafeddygol
BMid Bydwreigiaeth - Blynyddoedd 1-2
 
Dydd Iau 10 Medi 2026  
Tystysgrif AU Astudiaethau Gofal Iechyd (carfannau Medi)
MSc/BSc Nyrsio (carfannau Medi)
 
   
Dydd Mawrth 22 Medi 2026 BMid Bydwreigiaeth - Blwyddyn 3
   

Os oes gennych ymholiadau am ganlyniadau, cysylltwch â Hwb.

Mae eu manylion cyswllt ar gael yma

Neu gallwch alw heibio i Hwb am gymorth ac arweiniad.

• Campws Singleton – Llawr Gwaelod, y Techniwm Digidol
• Campws y Bae – Adeilad Canolog Peirianneg