MODIWLAU RHAGNODI A REOLEIDDIR GAN Y CYNGOR NYRSIO A BYDWREIGIAETH A'R CYNGOR PR
Rheoliadau ASESU penodol ar gyfer y MODIWLAU CANLYNOL:
- Rhagnodi anfeddygol i Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, (NSNM00)
- Rhagnodi anfeddygol ar gyfer nyrsys, ymwelwyr iechyd a bydwragedd (NSNM01)
- Nyrs Ymarferydd Cymunedol neu Fydwraig Sy'n Rhagnodi (V150) (NSNM02)
Mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y modiwl annibynnol a myfyrwyr sy'n astudio rhaglen lle mae'r modiwl yn rhan o ddyfarniad.
S1
Y marc pasio ar gyfer pob cydran asesu fydd 50% oni nodir marc pasio uwch fel arall.
S2
Bydd methu sefyll arholiad/gwneud iawn am asesiad a fethwyd neu fethu cyflwyno gwaith erbyn y dyddiad a bennir gan neu ar ran y Brifysgol yn arwain at gofnodi marc o 0% ar gyfer y gydran dan sylw.
S3
Bydd yn ofynnol i ymgeisydd sy’n absennol o’r modiwl ail-wneud y modiwl ar y cyfle cyntaf posibl, o fewn cyfnod hwyaf posibl ei ymgeisyddiaeth.
S4
Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu, os yw ymgeiswyr yn methu gwneud iawn am eu modiwl(au) yn ystod y cyfnod ailsefyll a bennir gan neu ar ran y Brifysgol oherwydd amgylchiadau esgusodol neu yn methu'r modiwl ar y cyfle cyntaf yn ystod y cyfnod ailsefyll (h.y. fel gohiriad), gallant gyflwyno tystiolaeth o'r amgylchiadau hynny i'w Cyfadran/Hysgol eu hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, gellir cynnig i ymgeiswyr o'r fath un cyfle arall i ailsefyll. Fel arfer, cynhelir yr ailasesiad(au) ar y pwynt(iau) asesu nesaf ar gyfer y modiwl ar y cyfle nesaf ond o fewn cyfnod hiraf yr ymgeisyddiaeth.
S5
Rhoddir un cyfle i ymgeiswyr sy'n methu cyflawni'r marc pasio mewn unrhyw gydran asesu i wneud iawn am y methiant a rhaid iddynt ailsefyll yr holl elfennau asesu fel y’i nodir gan y Gyfadran/yr Ysgol.
S6
Waeth beth fo'r gwir farc, bydd marciau'r holl asesiadau ailsefyll yn cael eu capio ar 50% neu'r marc pasio os yw hwn yn uwch. Ar gyfer unrhyw asesiad sy'n gofyn am farc pasio o 100%, y gwir farc fydd yn berthnasol. Ni fydd marciau ar gyfer cyflwyniadau cyntaf gohiriedig yn cael eu capio.
S7
Bydd methu cydran asesu ar yr ail ymgais yn arwain at dynnu'r ymgeisydd yn ôl o'r Brifysgol.
S8
Ni chaiff ymgeiswyr ailsefyll unrhyw gydran asesu os ydynt wedi ennill marc pasio yn flaenorol.
S9
Bydd ymgeiswyr sy'n cael eu tynnu’n ôl o’r Brifysgol yn cael cyfle i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn drwy'r weithdrefn Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd neu’r weithdrefn Apeliadau Academaidd.