7.1
Gall myfyriwr a gaiff ei dderbyn i raglen gradd Meistr, ond nad yw’n medru, neu nad yw’n cael, symud ymlaen i’w chwblhau, gymhwyso ar gyfer un o’r dyfarniadau a ganlyn gan y Brifysgol, yn dibynnu ar nifer y credydau a enillodd erbyn iddo ymadael:
|
Tystysgrif Ôl-raddedig
|
- Pasiwyd 60 credyd ym Mlwyddyn Un (50% neu fwy), rhaid bod isafswm o 40 credyd wedi'u hennill yn Abertawe.
|
|
Tystysgrif Ôl-raddedig gyda Rhagoriaeth
|
- Pasiwyd 60 credyd ym Mlwyddyn Un (50% neu fwy), rhaid bod isafswm o 40 credyd wedi'u hennill yn Abertawe.
- Wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu ragor.
|
|
Diploma Ôl-raddedig
|
- Wedi dilyn 120 credyd (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a rhaid gwneud yn iawn am y rhain*), rhaid ennill/gwneud yn iawn am o leiaf 80 o gredydau ym Mhrifysgol Abertawe.
|
|
Diploma Ôl-raddedig gyda Theilyngdod
|
- Wedi dilyn 120 credyd (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a rhaid gwneud yn iawn am y rhain*), rhaid ennill/gwneud yn iawn am o leiaf 80 o gredydau ym Mhrifysgol Abertawe.
- Wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol rhwng 60% a 69.99%.
|
|
Diploma Ôl-raddedig gyda Rhagoriaeth
|
- Wedi dilyn 120 credyd (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a rhaid gwneud yn iawn am y rhain*), rhaid ennill/gwneud yn iawn am o leiaf 80 o gredydau ym Mhrifysgol Abertawe.
- Wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu ragor.
|
* Gall rhaglenni fabwysiadu rheoliadau llymach ar gyfer gwneud yn iawn am fethiant oherwydd gofynion Cyrff Proffesiynol/Noddi.
7.2
Ni fydd Tystysgrif Ôl-raddedig mewn pwnc a enwir yn cael ei dyfarnu ar ôl i ymgeisydd gwblhau modiwlau sy’n cynnig o leiaf 60 credyd ar lefel 7 oni bai fod cyfanswm y modiwlau perthnasol yn gwneud rhaglen gymeradwy. Bwrdd Dyfarnu/Bwrdd Cynnydd perthnasol y Brifysgol Abertawe fydd yn cymeradwyo rhaglen dystysgrif dan y rheoliad hwn.
7.3
Rhaid i fyfyrwyr ar y rhaglen MSc Nyrsio basio o leiaf 60 o gredydau ym Mlwyddyn Un i gael cymhwyster ymadael sef Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Gofal a rhaid iddynt gwblhau'r modiwlau a addysgir (120 o gredydau) i gael cymhwyster ymadael sef Diploma Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Gofal.
7.4
Ni fydd myfyrwyr sy'n cofrestru ar y rhaglen MSc Nyrsio sy'n gadael gyda Thystysgrif Ôl-raddedig neu Ddiploma Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Gofal yn gymwys i wneud cais i gofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).
7.5
Rhaid i fyfyrwyr ar y rhaglen MSc Gwaith Cymdeithasol gwblhau'r modiwlau a addysgir (120 o gredydau) i gael cymhwyster ymadael sef Diploma Ôl-raddedig mewn Gwaith Cymdeithasol. (Yn gymwys i gyflwyno cais i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (SCW)).
7.6
Dyfernir Diploma Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Lles Cymdeithasol i fyfyrwyr sy'n gadael gydag o leiaf 120 o gredydau Lefel 7 ond nid yw'r rhain yn cynnwys pob un o'r modiwlau craidd sy'n ofynnol gan Gofal Cymdeithasol Cymru: SWM01, SWM03, SWM04, SWM05, SW-M17, SW-M18, SW-M19, SWM08. (Anghymwys i gyflwyno cais i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (SCW)).
7.7
Dyfernir Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Lles Cymdeithasol i fyfyrwyr sy'n gadael ar ôl iddynt gwblhau o leiaf 60 o gredydau Lefel 7 yn llwyddiannus ond llai na 120 o gredydau Lefel 7. (Anghymwys i gyflwyno cais i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (SCW)).