Bydd yr wythnosau nesaf yn heriol, felly mae pob croeso i ti ofyn am gymorth gan academyddion, Hwb, y llyfrgell, cymorth myfyrwyr, a'r timau technegol. Rydym yn ymfalchïo'n arbennig yn y systemau cymorth amrywiol sydd ar gael a byddwn yn rhoi gwybodaeth am y rhain i ti maes o law. Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â thi a'th gefnogi ar dy daith i ddod yn beiriannydd sifil.

Mae'r amserlen hon yn berthnasol i'r bobl sy'n dechrau ar Blwyddyn 1 Peirianneg Sifil.

Dydd Llun 22 Medi

10:30 - 15:00 - Peirianneg Sifil Blwyddyn 1 - Croeso a Sefydlu - 014, y Neuadd Fawr

Cyfle i gwrdd â'ch cyd-fyfyrwyr am y tro cyntaf ynghyd â’r staff academaidd o'ch adran a fydd yn cyflwyno eich rhaglen astudio, ac wedyn cynhelir digwyddiad croeso'r Gymdeithas Peirianneg Sifil.

Dydd Mawrth 23 Medi 2025

10:00 - 11:00 Peirianneg Sifil Blwyddyn 1 - Sgwrs Sefydlu - 014, y Neuadd Fawr

Yn yr ail ran hon o'ch digwyddiadau sefydlu, byddwch yn cael cyflwyniad i'r ystod o gymorth a fydd ar gael yn ystod eich astudiaethau.

11:00 - 13:00 Peirianneg Sifil Blwyddyn 1 - Digwyddiad Adeiladu Tîm - A114 Adeilad Canolog Peirianneg

Ymunwch â ni am ddigwyddiad adeiladu tîm a dod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr a'r staff academaidd.

*Cyn i ti gyrraedd, gwna yn siŵr dy fod ti'n archwilio pa bethau eraill sy'n digwydd y tu allan i'th adran, a'r ffyrdd y gelli di baratoi ar gyfer dy raglen unwaith dy fod ti'n cofrestru. Awgrym euraidd: clustnoda'r tair tudalen isod i gychwyn arni!