Bydd yr wythnosau nesaf yn heriol, felly mae pob croeso i ti ofyn am gymorth gan academyddion, Hwb, y llyfrgell, cymorth myfyrwyr, a'r timau technegol. Rydym yn ymfalchïo'n arbennig yn y systemau cymorth amrywiol sydd ar gael a byddwn yn rhoi gwybodaeth am y rhain i ti maes o law. Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â thi a'th gefnogi ar dy daith i ddod yn beiriannydd sifil.