Neges Groeso - MSc Bioamrywiaeth a Chadwraeth Fyd-eang
Annwyl fyfyrwyr,
Croeso cynnes iawn i chi i Brifysgol Abertawe ac i'r rhaglen MSc Bioamrywiaeth a Chadwraeth Fyd-eang!
Fy enw i yw Dr Aisling Devine, a fi yw Cyfarwyddwr y Rhaglen MSc. Fi fydd yn gyfrifol am sicrhau bod eich amser gyda ni'n ddidrafferth, a'ch bod yn cael y profiad myfyriwr gorau posibl. Byddaf hefyd yma i'ch helpu wrth i chi bontio i astudiaethau ôl-raddedig a'ch tywys drwy eich taith academaidd dros y flwyddyn i ddod.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi wyneb yn wyneb a'ch integreiddio i'n hadran Biowyddorau. Yn ystod yr Wythnos Groeso, byddwch yn cymryd rhan mewn sesiwn sefydlu lle byddwch chi'n cwrdd â chyd-fyfyrwyr a staff allweddol. Byddwn hefyd yn cynnal ystod o ddigwyddiadau cymdeithasol ac academaidd sy'n ymwneud â'r biowyddorau yn ystod y flwyddyn i'ch helpu i deimlo'n rhan o'r gymuned o'r cychwyn cyntaf.
Yn ystod y rhaglen byddwch chi'n cymryd rhan mewn darlithoedd, gwaith maes, a sesiynau ymarferol wedi'u cyflwyno gan ymchwilwyr bioamrywiaeth a chadwraeth sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang. Byddwch hefyd yn derbyn tiwtor academaidd a fydd yn cefnogi eich datblygiad personol ac academaidd wrth i chi wneud cynnydd drwy eich astudiaethau ôl-raddedig.
Os oes gennych gwestiynau cyn cyrraedd, anfonwch e-bost ataf yn a.p.devine@abertawe.ac.uk.
Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi a'ch croesawu i Adran y Biowyddorau.
Cofion gorau, Aisling
Neges Groeso - MSc mewn Adfer a Chadwraeth Morol
Annwyl fyfyrwyr,
Croeso cynnes iawn i Brifysgol Abertawe a'r rhaglen MSc mewn Adfer a Chadwraeth Morol!
Fy enw i yw Dr Aisling Devine, a fi yw Cyfarwyddwr Rhaglen y cwrs hwn. Fi fydd yn gyfrifol am sicrhau bod popeth yn ddidrafferth a'ch bod chi'n cael profiad myfyriwr rhagorol yn ystod eich amser gyda ni. Rydw i hefyd yma i'ch helpu wrth i chi bontio i astudiaethau ôl-raddedig a'ch tywys drwy'r flwyddyn gyffrous sydd o'ch blaenau.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi i'r rhaglen newydd sbon hon – y radd MSc gyntaf yn y byd sy'n canolbwyntio'n benodol ar adfer morol. Rydych chi'n ymuno â ni ar adeg hollbwysig mewn gwyddor morol, wrth i'r Cenhedloedd Unedig gyhoeddi mai hwn yw'r degawd ar gyfer adfer ecosystemau.
Bydd gennych chi'r cyfle i archwilio cysyniadau hanfodol mewn adfer a chadwraeth morol drwy ddarlithoedd, gwaith maes, sesiynau labordy a gwaith ymarferol ar gwch. Cyflwynir ein haddysg gan ymchwilwyr ac ymarferwyr gwyddor forol blaenllaw, gan sicrhau eich bod yn ennill gwybodaeth arloesol a phrofiad ymarferol drwy gydol y flwyddyn.
Yn ystod yr Wythnos Groeso, byddwch yn cymryd rhan mewn sesiwn sefydlu i gwrdd â'ch cyd-fyfyrwyr a staff academaidd allweddol. Byddwn hefyd yn cynnal ystod o ddigwyddiadau cymdeithasol ac academaidd sy'n ymwneud â'r môr a'r biowyddorau i'ch helpu i ymgartrefu, creu cysylltiadau a theimlo'n rhan lawn o'n cymuned adrannol.
Byddwch hefyd yn derbyn tiwtor academaidd a fydd yn eich cefnogi drwy gydol y rhaglen a bydd yn helpu eich datblygiad academaidd a phersonol wrth i chi wneud cynnydd fel myfyriwr ôl-raddedig.
Os oes gennych gwestiynau cyn i chi gyrraedd, anfonwch e-bost ataf yn a.p.devine@abertawe.ac.uk
Unwaith eto, croeso - edrychwn ymlaen at gwrdd â chi a chychwyn y flwyddyn gyffrous hon gyda'n gilydd.
Dymuniadau gorau, Aisling
Croeso gan Gyfarwyddwr y Rhaglen MRes
Croeso cynnes iawn i’r radd Meistr mewn Ymchwil (MRes) yn y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n bleser gennyf eich croesawu i'r rhaglen gan obeithio y bydd hi'n flwyddyn gyffrous, heriol a gwobrwyol.
P'un a ydych yn ymuno â ni drwy Ecoleg ac Esblygiad Ymddygiadol, Bioamrywiaeth ac Ecosystemau, Systemau Morol a Dŵr Croyw neu Gynhyrchion Naturiol ac Adnoddau Amgylcheddol, byddwch hefyd yn rhan o gymuned ymchwil lawer ehangach y Biowyddorau. Un o gryfderau ein MRes yw'r ehangder hwn: bydd eich prosiect yn eich galluogi i ddatblygu dyfnder ac arbenigedd mewn maes penodol, ond rwy'n eich annog i barhau'n chwilfrydig am y wyddoniaeth sy'n digwydd o'ch cwmpas. Nid yw syniadau, dulliau a chysylltiadau annisgwyl bob amser yn parchu ffiniau pynciau!
Mae'r MRes ychydig yn wahanol i'r profiad rydych wedi'i gael hyd yn hyn yn y brifysgol. Rydych yn ymuno â ni nid fel myfyriwr sy'n mynychu dosbarthiadau ond fel ymchwilydd ôl-raddedig annibynnol. Mae hynny'n golygu cymryd mwy o gyfrifoldeb am eich dysgu: gofyn cwestiynau, archwilio syniadau, datblygu eich diddordebau ymchwil ac yn y pen draw, ddylunio a chynnal eich prosiect ymchwil eich hun.
Ond nid yw bod yn annibynnol yn golygu bod yn ynysig. Mae ymchwil yn ffynnu ar sgyrsiau â myfyrwyr MRes eraill, goruchwylwyr, ymchwilwyr, staff technegol ac academyddion. Edrychwch y tu hwnt i'ch prosiect a'ch llwybr presennol: siaradwch â phobl sy'n gweithio ar organebau, amgylcheddau, cwestiynau a dulliau gwahanol. Efallai daw rhai o rannau mwyaf defnyddiol eich blwyddyn o drafod syniad, clywed am ymchwil rhywun arall, dod ar draws techneg anghyfarwydd neu ddarganfod cysylltiad nad oeddech wedi'i ystyried o'r blaen. Mae datblygu prosiect ymchwil penodol wrth barhau'n rhan o'r gymuned ddeallusol ehangach hon wrth wraidd profiad y radd MRes.
Eich rhaglen gynefino yw man cychwyn y newid hwn. P'un a ydych wedi astudio yn Abertawe o'r blaen neu'n ymuno â ni o rywle arall, bydd y rhaglen gynefino'n eich helpu i ddeall sut mae'r MRes yn gweithio, sut bydd y flwyddyn nesaf yn edrych i chi a ble i ddod o hyd i gymorth academaidd, technegol a gweinyddol yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.
Yn dilyn y rhaglen gynefino, byddwch yn dechrau ar dri modiwl a addysgir sy'n rhoi i chi’r sgiliau craidd ar gyfer cynnal ymchwil ôl-raddedig, gan gynnwys dulliau ymchwilio, dadansoddi data ac ysgrifennu gwyddonol. Bydd y rhain yn eich cefnogi wrth i chi archwilio meysydd ymchwil posib, cwrdd ag academyddion a thrafod prosiectau a goruchwylwyr posib. O fis Ionawr i fis Medi, eich prosiect ymchwil fydd prif ffocws eich MRes, gan roi'r cyfle i chi roi'r sgiliau hynny ar waith drwy gyfnod estynedig o waith ymchwil annibynnol, gan arwain at eich traethawd hir a'ch arholiad llafar.
Gwnewch yn fawr o'r rhaglen gynefino ac ewch i'r holl weithgareddau a drefnwyd, yn enwedig rhaglen gynefino'r radd MRes a'r sesiynau iechyd a diogelwch, sy'n hanfodol i'ch paratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil. A pheidiwch ag anghofio am y gweithgareddau cymdeithasol. Nid yw cwrdd â chyd-fyfyrwyr ar eich cwrs ac aelodau'r gymuned academaidd yn opsiwn ychwanegol ar gyfer bod yn ymchwilydd; mae creu cysylltiadau a chyfnewid syniadau'n rhan o'r ymchwil ei hun!
Fel Cyfarwyddwr y Rhaglen, rwyf yma drwy gydol y flwyddyn, felly cofiwch gysylltu os oes gennych gwestiynau, pryderon neu os hoffech chi drafod rhywbeth. Does dim angen aros i broblem fach droi'n un fawr. Mae fy nrws metafforaidd bob amser ar agor - er bod e-bost yn fwy diogel na bwrw'r un go iawn!
Yn bwysicaf oll, byddwch yn chwilfrydig, gofynnwch gwestiynau, gwnewch gysylltiadau ac edrychwch y tu hwnt i ffiniau eich prosiect eich hun. Mae eich MRes yn gyfle i ddatblygu arbenigedd mewn maes penodol wrth weld sut mae eich ymchwil yn rhan o ddarlun llawer mwy. Ar draws y Biowyddorau, efallai ein bod yn astudio organebau, systemau a chwestiynau gwahanol iawn, ond rydym yn rhannu diben cyffredin: deall y byd naturiol a defnyddio'r ddealltwriaeth honno i lunio dyfodol gwell.
Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi, clywed am eich diddordebau a'ch syniadau a'ch croesawu chi i'n cymuned ymchwil ôl-raddedig.
Croeso i'r radd MRes yn y Biowyddorau - archwiliwch yn eang ac yn ddwfn a mwynhewch y flwyddyn o'ch blaen!
Dr Konstans Wells
Cyfarwyddwr Rhaglen, MRes y Biowyddorau
https://www.swansea.ac.uk/staff/k.l.wells/