Mynd i Ddigwyddiadau'r Wythnos Groeso
Bydd Wythnos Croeso ar gyfer Medi 2026 yn digwydd o'r 21af tan y 25ain o Fedi 2026, gyda nifer o ddigwyddiadau'n digwydd bob dydd. Dylid gwneud ymdrech gennych i fynychu'r holl ddigwyddiadau sydd wedi'u rhestru yn y dyddiadur isod
Mae digwyddiadau yn gyfle i gael cipolwg ar dy raglen radd ddewisol, gofyn cwestiynau a dod i adnabod staff a myfyrwyr yn dy adran. Edrychwn ymlaen at gwrdd â thi!
Oes angen help arnat ti i ddod o hyd i leoedd ar y campws? Gweler y mapiau o Gampws Singleton a Champws y Bae i'th helpu i ddod o hyd i leoliadau pob sesiwn.
Mae'r amserlen hon yn berthnasol i'r bobl sy'n dechrau MSc mewn Cyfrifiadureg Uwch, Cyfrifiadureg (Abertawe), Technoleg Meddalwedd Uwch, Seiberddiogelwch neu Wyddor Data.
25th Medi
10:00 - 12:00 - Sgwrs Groeso, MSc Cyfrifiadureg (Arbenigol) - 002, Y Ffowndri Gyfrifiadol
Bydd staff academaidd allweddol o'ch Adran yn rhoi trosolwg i chi o'r hyn i'w ddisgwyl drwy gydol eich MSc. Dewch i'r sesiwn hon os ydych wedi cofrestru ar MSc mewn Cyfrifiadureg Uwch, Technoleg Meddalwedd Uwch, Seiberddiogelwch neu Wyddor Data.
14:00 - 16:00 Disgwyddiad cymdeithasol i bob rhaglen MSc - Neuadd Chwaraeon, Campws y Bae
Ymunwch â'ch cyfoedion ar gyfer cymdeithasol adeiladu tîm gyda GETACTIVE i groesawu'r holl Fyfyrwyr MSc newydd. Ffordd wych o ddechrau'ch blwyddyn trwy ffurfio cyfeillgarwch a rhwydweithiau newydd. Bydd cyfle hefyd i ennill rhai gwobrau!
*Cyn i ti gyrraedd, gwna yn siŵr dy fod ti'n archwilio pa bethau eraill sy'n digwydd y tu allan i'th adran, a'r ffyrdd y gelli di baratoi ar gyfer dy raglen unwaith dy fod ti'n cofrestru. Awgrym euraidd: clustnoda'r tair tudalen isod i gychwyn arni!